Llanbedr yn codi i’r ‘her’
Cafodd staff Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llanbedr
fwy nag un her fel rhan o gystadleuaeth peintio ar gyfer
ysgolion trwy Bowys, a lansiwyd gan Ymddiriedolaeth Bwyd
a Thir Canolbarth Cymru ym mis Mai. Y dasg i’r disgyblion
oedd peintio label ar gyfer jar o Siytni, ond ‘beth
yw siytni’? Trefnwyd sesiwn blasu gan yr athrawes
Jo Davies, Lisa Lewis a Jane Morgan, gan ddefnyddio jariau
o siytni a brynwyd o siop lleol, ac fe wnaethant esbonio
am y gwahanol flasau, a sut y cafodd y siytni ei wneud.
Yn dilyn y sesiwn, fe wnaeth y dosbarth gynhyrchu ei siytni
ei hun. Cafodd y blasau amrywiol eu blasu a’u hasesu
gan y disgyblion, a chafodd y jariau eu gwerthu i rieni
a ffrindiau’r ysgol.
Yn dilyn llwyddiant y gweithgaredd hwn ymhlith y staff
a’r disgyblion, penderfynwyd ei ailadrodd y tymor
hwn, a chafodd y siytni ei weini gyda chaws a bara yng
nghinio diolchgarwch yr ysgol ar 2 Hydref.
Ac yna at y peintio – fe wnaeth pob plentyn yn yr
ysgol gymryd rhan yn y gystadleuaeth, a gwobrwywyd yr ysgol,
gan iddi ennill 10 tystysgrif, yn cynnwys y tri wobr gyntaf
yn y grwp oed 4-5 a’r wobr gyntaf ar y cyd yn y grwp
oed 6-8.
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno gan Wayne Sargeant, Swyddog
y Prosiect PABA yng ngwasanaeth yr ysgol ar 7 Hydref.
Mewn rhannau eraill o Sir Frycheiniog, derbyniwyd ceisiadau
gan ysgolion Gurnos, Dolafon, Bronllys a Sant Joseff,
gyda’r olaf yn ennill y wobr gyntaf yn y grwp oed
9-11.
Reodd Wayne Sargeant, Swyddog Prosiect Sir Frycheiniog
yn hapus iawn gyda’r canlyniadau, yn enwedig yn wyneb
cystadleuaeth anodd iawn o ysgolion ar draws Powys, ac
mae’n gobeithio gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau
y flwyddyn nesaf. Hefyd, hoffai weld yr ysgolion uwchradd
yn cymryd rhan yn y grwp oed 11-16.
Yn ystod tymor yr haf, aeth dosbarth Babanod a Derbyn
Talgarth ar ymweliad i Upper Panteg a Lower Panteg, daliadau
cyfagos ym Mhengeuffordd. Hefyd, aeth dosbarth K Ysgol
Fabanod Mount Street i weld bridiau prin a thraddodiadol
Sue Cooke yn Fferm Minfield, Bronllys, a oedd yn cynnwys
defaid Mynydd Du Cymreig, gwartheg Dexter a gwartheg gwyn
Prydeinig, cobiau Cymreig a nifer o fridiau o foch gyda
moch bach – Cymreig, Welsh, Gloucester Old Spot,
Oxford Sandy and Black, Saddleback a Kune-Kune. Hefyd,
aeth Llanbedr i Upper Panteg, lle roedd yr Alpacaod, yn
enwedig y cria newydd, yn atyniad poblogaidd iawn. Aeth
Ysgol Gynradd Talgarth ar bedwar ymweliad i Lower Porthamel
Farm ar gyrion Talgarth. Cafodd yr ysgol ei ffrydio’n
fertigol, a diolch i garedigrwydd a brwdfrydedd y ffarmwr
Joel Durrell, cafodd yr holl blant yn yr ysgol gyfle i
brofi’r fferm arganig hwn, yn cynnwys godro geifr,
llysiau, gwartheg, defaid, perllan afalau a phêrs,
samplu ffrwythau meddal, hwyaid, gwyddau a ffured! Hefyd,
daeth Blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Gwernyfed yma fel rhan
o ddiwrnod menter ym mis Gorffennaf.
Mae tymor yr hydref wedi dechrau gydag ymweliad gan ddisgyblion
iau Bronllys i’w fferm lleol, Minfield. Mae ysgolion
yng nghlwstwr Ystradgynlais hefyd yn cynllunio ymweliadau
i ddaliad lleol, a gobeithir cael ysgolion yn gwneud gweithgareddau
ymarferol mewn Planhigfa Coed yn ystod misoedd yr hydref
a’r gaeaf.
Mae Marchnadoedd Ffermwyr Ysgolion wedi’u cynnal
yng Nghwmdu, Llan-gors a Rhosgoch, ac mae un arall wedi’i
gynllunio ar gyfer Llanbedr ym mis Rhagfyr. Mae Camdu,
Rhosgoch a Llan-gors wedi mynegi diddordeb mewn cynnal
marchnad yn y gwanwyn. Yn Nhalgarth, mae marchnadoedd Stryd
chwarterol yn cael eu cynnal erbyn hyn, amrywiad ar y syniad
o Farchnad Ffermwyr Ysgolion. Cynhelir y nesaf o’r
rhain ar 6 Rhagfyr.
|