English

 

Ymweliadau â ffermydd

 

Hydref prysur ar gyfer ymweliadau fferm!

Oherwydd yr hydref mwyn a’r amodau tyfu da a gafwyd eleni, mae ysgolion wedi bod yn ymweld â ffermydd hyd at fis Tachwedd. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r plant weld y newidiadau wrth i’r hydref droi’n aeaf, darganfod pa waith y mae’n rhaid i’r ffarmwr ei wneud yr adeg hon o’r flwyddyn, a’r cynlluniau y mae’n rhaid eu gwneud ar gyfer y tymor nesaf.

Y tymor hwn, bydd dau o ddosbarthiadau TGAU Astudiaethau Busnes Ysgol Uwchradd Y Drenewydd yn ymweld â Fferm Cannon, a fydd yn un o’u hastudiaethau achos. Fe wnaeth dosbarth Dylunio a Thechnoleg o Ysgol Uwchradd Y Trallwng ymweld â Fferm Offa i edrych ar gynhyrchu a marchnata llysiau. Mae David Jones, y ffarmwr, yn cyflenwi llysiau i’r ysgol ar gyfer cinio ysgol, ac roedd yn falch o allu cwrdd â rhai o’r bobl sy’n bwyta’i gynnyrch! Mae gan yr Ysgolion Uwchradd anghenion penodol, ac mae’r prosiect yn hapus iawn i ymdrin â’r rhain, meddai Caroline Davies, a wnaeth gwrdd ag athrawon o holl Ysgolion Uwchradd Powys yn ddiweddar, yn y Gynhadledd Addysg ar gyfer Datblygu Cynaladwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang ar 6 Tachwedd 2006, lle’r oedd stondin gan y Prosiect PABA.

Aeth Ysgol GG Llandinam ac Ysgol Arbennig Brynllywarch i ymweld â Fferm Llwynderw yn Hydref/Tachwedd, ac roedd y ffarmwr Michele Becker, a gynhaliodd noson ystlumod yn ystod yr haf, yn gallu dangos i’r plant y gwaith yr oedd hi’n ei wneud i baratoi ar gyfer y gaeaf, a sut y mae cynhaeaf hwyr y llysiau arbennig y mae hi’n eu tyfu o dan bolythen yn dod ymlaen.

 

 

lwynderw, sef fferm sy’n cymryd rhan ym Mhrosiect CAFE a’r cynllun Tir Gofal. Y perchnogion yw Michele a Richard Becker a lleolir y fferm ger Llanidloes ac mae’n croesawu ymweliadau ysgol yn rheolaidd. Mae Michele yn wyddonydd ac mae Richard yn ffermwr ac yn ffotograffydd.
Babanod Ysgol Maesyrhandir yn ymweld â Fferm Offa, Trefaldwyn; Y ffermwr, David Jones, sy’n tyfu llysiau ar gyfer eu gwerthu’n lleol. Mae’n cyflenwi llysiau hefyd i Ysgol Uwchradd Y Trallwng ar gyfer eu ciniawau ysgol. Yr athrawes, Linda Roberts.
Maesyrhandir School infants visiting Offa Farm
Maesyrhandir School infants visiting Offa Farm


Ymweliad â Fferm Canno, Llanerfyl, gyda’r ffermwr, Nigel Elgar, yn croesawu 17 o blant bach o Ysgol Gynradd Dolfor, gyda’u hathrawes Alison Jones.
(Bydd rhieni a chynorthwywyr dysgu, athrawon dan hyfforddiant a llywodraethwyr wrth law er mwyn sicrhau bod y nifer gywir o oedolion wrth law. Yn fferm Cannon, roedd partner Nigel ar y fferm yno hefyd.)


Nigel Elgar yn dangos i’r plant sut i weithio tri chi defaid gyda’r defaid sydd newydd gael eu cneifio.


Yn eu gwisgoedd ac yn barod i chwilota!
Y ffermwr, Nigel Elgar yn dangos brigwyn i’r plant ar ôl taith i fyny’r bryniau.

Dangos y sied gneifio i’r plant, esbonio beth sy’n digwydd yma a gadael i’r plant gyffwrdd â’r gwlân seimllyd.
 
Moat Farm ar 8 Gorffennaf, gyda 30 o blant o flynyddoedd 5 a 6 Ysgol Gynradd Aberriw yn ymweld â Chastell ‘Moat’ – castell tomen a beili dwbl o’r Oesoedd Canol.

Dyma’r tro cyntaf i’r ffermwyr, Gill a John Trickey, groesawu plant ysgol i’w fferm er mwyn rhoi cyfle iddynt werthfawrogi hanes ar eu stepen drws eu hunain. Mae’r castell bron â bod ar garreg y drws ac maent wedi gofalu amdano ers deuddeng mlynedd. Dangosodd Mrs Trickey lun brodiog o’r safle fel y byddai wedi edrych yn ei ddyddiau gorau. Hi oedd wedi gwneud hwn, a bellach mae’n hongian yn eu hystafell fwyta. Clywodd y plant hefyd sut y gall y llethrau serth a’r ffosydd corslyd fod yn beryglus i’r gwartheg a’r defaid!

Fe arweiniodd Jeff Spencer, archeolegydd a gyflogir gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys, y plant a’u hannog i chwilota o amgylch y safle a gwneud eu sylwadau eu hunain, cyn esbonio pa gliwiau sydd yno a sut y mae archeolegwyr yn dadansoddi sut y byddai pobl wedi byw yn yr ardal hon dros fil o flynyddoedd yn ôl.

Roedd Pennaeth Aberriw, Mrs Catherine Carter, wrth ei bodd gyda’r ymweliad a roddodd gyfle i blant ddarganfod pethau dros eu hunain, dod i wybod am drysorau hanesyddol yn eu hardalodd hwy, gwerthfawrogi sut y mae’r teulu yn edrych ar ôl y safle sydd ar eu stepen drws hwy, a dysgu am y math o waith y mae Jeff a’i gydweithwyr yn ei wneud.