Y Cyfnod Sylfaen (3-7)
Saith maes dysgu sy'n ffurfio cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen. Rhoddir
pwyslais ar ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth trwy ddysgu
trwy brofiad – dysgu trwy wneud a thrwy ddatrys problemau bywyd
go iawn y tu mewn ac yn yr awyr agored. Y saith maes dysgu yw:
·
Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Lles
·
Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
·
Datblygiad Mathemategol
·
Dwyieithrwydd a dealltwriaeth Amlddwylliannol
·
Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
·
Datblygiad Corfforol
·
Datblygiad Creadigol.
Mae'r Prosiect PABA mewn lle da i helpu ysgolion i gyflwyno agweddau
allweddol o'r Cyfnod Allweddol trwy Ymweliadau Fferm. Mae'r rhain
yn mynd â'r plant y tu allan, gan roi cyfle iddynt archwilio
eu ffermydd lleol yn uniongrychol, a gan roi cyfle iddynt cwestiynu
a sgwrsio gyda ffermwyr. |