Mae Michael Jones, cyn gadeirydd yr NFU yn Sir
Drefaldwyn a thad David Jones o Fferm Dyffryn, un o’r ffermydd Tir Gofal
sy’n cynnig mynediad addysgol yn Sir Drefaldwyn, wedi bod
yn ysgrifennu ei atgofion personol wrth iddo dyfu i fyny ar y
fferm i’r gogledd i’r Drenewydd. Ar 2 Hydref 2008,
fe wnaeth Michael a David gynnal ymweliad ar gyfer plant iau
o Ysgol GG Yr Ystog. I ddechrau, disgrifiodd Michael Jones ei
fywyd ar y fferm, ac roedd y plant wedi’u syfrdannu gan
fanylion yr hyn y gwnaethant ei fwyta, yr ysgol, gwaith, y ffaith
nad oedd teledu ganddynt, a’r defnydd o geffylau. Symudodd
ymlaen i’w deimladau yn ystod y rhyfel – yn enwedig
presenoldeb milwyr, rhwystrau ffyrdd, yr ofn o wneud rhywbeth
na ddylech ei wneud, ond yn fwy na hyn, y teimlad o frys ac ymrwymiad
a oedd wedi uno pawb yn yr ymgyrch. Aeth ymlaen i ddweud wrth
y plant am y ddau Garcharor Rhyfel o’r Eidal a ddaeth i
weithio ar eu fferm, a gwrthdrawiad trychinebus awyren ‘British
Bomber’ mawr – Handley-Page Halifax – yn ystod
storm ofnadwy ym mis Ionawr 1944, pan fu farw naw o awyrenwyr.
Yn ystod taith gerdded o amgylch y fferm, clywodd y plant sut
yr oedd y fferm wedi newid, pwysleisiwyd hen nodweddion a datblygiadau
diweddar – yn enwedig plannu’r coed – ac esboniwyd
y rhain, fel bod y plant yn sylweddoli fod nifer o newidiadau
wedi bod i ffermio a’r tirlun ers y rhyfel, ac roedd y
rhan fwyaf o’r rhain oherwydd yr anghenion a ganfyddwyd
gan lywodraeth y dydd. Mae’r teulu Jones wedi bod yn ffermio’r
tir ers ychydig dros can mlynedd, ac mae ganddynt wybodaeth fanwl
am y tir, y planhigion a’r anifeiliaid a’r patrymau
bywyd yno.
Cafodd haf gwlyb 2008 ei arddangos wrth i ni redeg ar draws
y caeau a thynnu esgidiau glaw o fynedfeydd mwdlyd. Esboniodd
David Jones fod eleni wedi bod yn flwyddyn anodd ar gyfer y cnofilod
bach – llygod, llygod dwr a llygod coch sy’n nythu
yn y ddaear, ac ychydig o dan y ddaear. Mae canlyniadau hyn ar
gyfer y tylluannod sy’n dibynnu arnynt yn cael eu teimlo
hefyd – cyfeiriodd David at y bocsys Tylluanod Gwynion
sydd wedi’u rhoi yn y coed.
Roedd yr athrawes, Elisabeth Farrington yn gwerthfawrogi manylder
y profiad, a chyfeiriodd at y ffordd yr oedd y plant wedi cymryd
sylw manwl o’r manylion a oedd yn dod yn fyw o’u
hamgylch. Aeth y plant â delweddau lleol o’r fferm,
er enghraifft y gwersyll Carcharorion Rhyfel a oedd yn arfer
sefyll gyferbyn â Theatr Hafren – yn cynnwys weiren
bigog a thyrau gwylio, y trenau’n llawn cynnyrch a gafodd
eu cludo i’r dinasoedd ar leiniau sydd dim ond yn cael
eu defnyddio gan ambell drên bob dydd erbyn hyn, ac atgofion
personol Michael Jones, sy’n ystyried ei hun yn freintiedig
am ei fod wedi gweld Winston Churchill yng Nghofentri yn ystod
ei daith o amgylch y wlad ar ddiwedd y rhyfel yn 1945, a disgrifiodd
ei weld yn mynd heibio yng nghefn car gyda sigâr a’r
arwydd ‘V’ am fuddugoliaeth!
|



|