English

PROSIECT PABA Adref

Cofrestrwch eich Ysgol gyda Menter ‘Let’s Grow’ Morrison’s a dechreuwch gasglu talebion!

O 15 Medi tan 6 Tachwedd 2008, gall teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau eich disgyblion gasglu talebion ‘Let’s Grow’ Morrisons o’u siop Morrisons lleol. Unwaith y byddwch wedi cofrestru eich ysgol, bydd gennych hyd at 10 Ionawr 2009 i ddefnyddio’r talebion hyn i brynu offer garddio am ddim; popeth o hadau a rhawiau i finiau compostio a phlannwyr.

Cliciwch yma i gofrestru


Stondin y Prosiect PABA yn y Sioe Fawr

Ym mis Gorffennaf eleni, roedd y Prosiect yn ddigon ffodus i gael gwahoddiad gan Gyngor Sir Powys i gynnal arddangosfa wedi’i staffio gyda gweithgareddau i blant y tu allan i Bafiliwn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (y WLGA) yng nghanol maes y sioe. Am un diwrnod yn unig – sef dydd Iau, diwrnod olaf y sioe – roeddem ar gael i gwrdd â rhieni, athrawon a ffermwyr oedd â diddordeb mewn addysgu plant am ffermio. Derbyniwyd ymholiadau o Bowys a rhannau eraill o Gymru, a byddwn yn dilyn ymlaen ar y rhain yr haf/hydref hwn.

Roedd y cwestiynau a dderbyniwyd yn amrywio o “Beth sy’n digwydd yn fy ardal i?” i “Sut ydw i’n mynd ati i agor fy fferm ar gyfer ymweliadau gan ysgolion?” a “Rhowch fwy o wybodaeth i mi am y Marchnadoedd Ffermwyr Ysgolion newydd – sut yn union y maent yn gweithio?”

Os hoffech sgwrs am unrhyw ran o’n gwaith neu eich syniadau chi, mae croeso i chi gysylltu â ni!


Tyfu eich tatws eich hun yn 2009
Cofrestrwch nawr!

Yn 2008, fe wnaeth 48 o Ysgolion Powys gofrestru a derbyn bagiau o datws hadyd a thaleb i brynu compost yn ogystal â chyfarwyddiadau a phosteri!
Gallwch gymryd rhan YN RHAD AC AM DDIM, a bydd yr ysgolion hynny a wnaeth gymryd rhan eleni (2008) yn derbyn e-bost yn eu gwahodd i gymryd rhan yn 2009. Yn ogystal, mae’r Cyngor Tatws yn cynnig 2000 o becynnau tyfu arall i alluogi i hyd yn oed mwy o ysgolion fanteisio o’r prosiect. Bydd y rhain ar gael i’r 2000 ysgol cyntaf a fydd yn cofrestru ar-lein.
Cliciwch ar y botwm isod i gofrestru, dim ond os na wnaethoch gofrestru y llynedd!

http://www.potatoesforschools.org.uk/

Tyfu Llysiau yn yr Ysgol?

Mae nifer o ysgolion wedi cysylltu â ni i ofyn am gyngor, gwybodaeth a chyllid ar gyfer garddio mewn ysgolion – tyfu bwyd yn hytrach na blodau i gysylltu â’r Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu sgiliau ymarferol.

Am becyn gwybodaeth rhad ac am ddim cynhwysfawr, cysylltwch â ‘Garden Organic’.

‘Garden Organic’ – cyswllt ar gyfer ysgolion


Ymweliadau Fferm yn yr Hydref – Bioamrywiaeth ar y Fferm

Mewn ymgynghoriad â’n hariannwyr, sef Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Fforwm ESD&GC ym Mhowys, rydym ar gael i hwyluso ymweliadau Fferm Ysgolion yr hydref hwn, gyda phwyslais arbennig ar bioamrywiaeth a dysgu sgiliau, a hynny ar gyfer plant o bob oed.

Yn aml, profiad personol uniongyrchol yw’r ffordd orau i ddisgyblion ddod i’r afael â’r cysyniadau hyn a’r materion cymhleth. Mae trip ysgol – wedi’i gynllunio’n dda rhwng yr athro a’r ffarmwr – yn cynnig lleoliad cofiadwy i weld, cyffwrdd â, a deall realiti bioamrywiaeth. Gall plant weld eu hunain beth sydd yna, gallant glywed gan y ffarmwr sut y gall bethau fod wedi newid yn ddiweddar, a gallant ddysgu pa gamau y mae’r ffarmwr yn eu cymryd i hyrwyddo bioamrywiaeth yn lleoliad y ffarm lleol. Mae nifer o’r ffermwyr gwirfoddol sy’n gweithio gyda’r Prosiect PABA yn rhan o Gynllun Amaethyddol Amaeth-Amgylcheddol Tir Gofal, ac mae rhai yn organig a/neu’n ymwneud â datblygu arfer da.

 

Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel Rhydieithon yn archwilio’r goedwig gyda’r ffarmwr Alex Higgs ym mis Mehefin 08

Glendid Bwyd Sylfaenol – sgil i bawb


Mae’r Prosiect PABA yn falch o fod wedi gallu cynnig e-ddysgu i ysgolion ar gyfer y Dystysgrif Glendid Bwyd Sylfaenol. Hyd yn hyn, mae deuddeg o ysgolion wedi manteisio ar y cyfle, gydag athrawon, cynorthwywyr, ffermwyr, rhieni a disgyblion – rhai ohonynt mor ifanc â 10 oed – yn ennill tystysgrifau gan ddefnyddio pecyn e-ddysgu y gellir mynd iddo ar y cyfrifiadur, naill ai yn yr ysgol neu gartref. Mae’r sgil hanfodol hwn yn codi ymwybyddiaeth am ddiogelwch bwyd a’r camau a’r arferion ymarferol y mae angen eu cymryd i adnabod a lleihau peryglon iechyd posibl. Mae’r Prosiect PABA yn falch o fod yn gweithio gyda ‘Creative Learning Solutions’, a ddatblygodd yr adnodd hon. Mae lleoedd yn dal i fod ar gael yn rhad ac am ddim – am fwy o wybodaeth cysylltwch â Caroline Davies, Cydlynydd y Prosiect. Am gipolwg o’r meddalwedd, cliciwch yma:

Disgyblion yn ‘Bettws Lifehouse’ yn derbyn eu Tystysgrifau Glendid Bwyd Sylfaenol


Swyddogion Prosiect PABA newydd ar gyfer Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog
Jane Evans (Sir Faesyfed), Wayne Sargeant (Sir Frycheiniog), Caroline Davies (Sir Drefaldwyn)

Erbyn hyn, mae Swyddogion Prosiect PABA ar gyfer Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog wedi’u recriwtio i hyrwyddo a hwyluso ymweliadau fferm, ac i ddatblygu’r Prosiect PABA trwy Bowys.
Lleolir Wayne Sargeant yn Aberhonddu, a lleolir Jane Evans yn Neuadd y Sir, Llandrindod. Mae’r ddau’n gweithio rhan amser, ac i ddechrau, gellir cysylltu â hwy trwy anfon e-bost at cafe@powys.gov.uk

Bydd Swyddogion Prosiect yn gweithio gydag ysgolion i hwyluso ymweliadau fferm ysgolion, yn cynnwys materion er enghraifft asesiad risg a chysylltiadau â’r cwricwlwm cenedlaethol a’r adnoddau sydd ar gael. Hefyd, byddant yn helpu ysgolion i gynnal Marchnadoedd Ffermydd Ysgolion ac i ddatblygu coginio ymarferol a Glendid Bwyd Sylfaenol trwy e-ddysgu. Cynllunnir cylchlythyr ar gyfer yr hydref, a chaiff y gwefan PABA eu datblygu i adlewyrchu gweithgareddau yn Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed wrth i’r sir baratoi ar gyfer Pythefnos Fwyd Prydeinig a Blwyddyn Bwyd a Ffermio (Medi 07 hyd Gorffennaf 08).


Pythefnos Fwyd Prydeinig!
22 Medi hyd 7 Hydref 2007

Bydd pob ysgol yng Nghymru yn derbyn llyfryn dwyieithog cyntaf Pythefnos Fwyd Cymru tua dechrau mis Medi (yn lle llyfryn Pythefnos Fwyd Prydeinig, sef ‘Putting the Ooh Back into Food’). Bydd yn cynnwys astudiaethau achos o Gymru, ac yn rhoi cyfle i gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol. Rhowch wybod i’r Prosiect PABA am y gweithgareddau yr ydych yn eu cynllunio!

Pa gyfleoedd y gall Pythefnos Fwyd Prydeinig ddod â hwy i’ch dosbarth?

  • Addysgu pobl ifanc am yr amrywiaeth o fwyd hyfryd sydd ar gael, ac am fanteision iechyd a hyfrydwch bwyta cynnyrch safonol, ffres, tymhorol sy’n dod o ardal arbennig.
  • Rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau coginio ymarferol sylfaenol, a’u cyffroi i ddatblygu’r rhain ymhellach adref.
  • Cynyddu faint o addysg bwyd sydd mewn ysgolion, trwy annog athrawon i gynnal digwyddiadau arbennig ar gyfer pobl ifanc yn ystod y pythefnos, yn y gobaith y bydd hyn yn annog eu brwdfrydedd a’u diddordeb.
    Lawrlwythwch mwy o fanylion yma:

Hyfforddiant i Ffermwyr ar gyfer Ymweliadau Addysgol - Cwrs CEVAS

Mae’r Prosiect yn cynnal cwrs hyfforddi tri diwrnod ar gyfer ffermwyr sy’n cynnal ymweliadau ysgolion yr hydref hwn. Mae’r cynllun hwn, sy’n arwain at achrediad gan Rwydwaith y Coleg Agored (OCN), wedi bod yn rhedeg yn Lloegr ers sawl blwyddyn, ac mae dros 600 o ffermwyr wedi’i gwblhau.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) Cymru, ar y cyd â’r Prosiect PABA a gyda grant gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynnal peilot o’r Hyfforddiant CEVAS cyntaf erioed yn Y Drenewydd. Fe wnaeth chwech o ffermwyr gwblhau’r cwrs a chyflwyno portffolios, ac fe wnaeth pump aelod staff o PABA a FACE Cymru gwblhau’r cwrs er mwyn hyfforddi fel hyfforddwyr er mwyn cyflwyno cyrsiau yng Nghymru yn y dyfodol.

Gyda chymorth y Coleg YMCA, bydd FACE Cymru a’r Prosiect PABA yn cynnig cwrs yn Y Drenewydd ar 24, 25 Medi a 1 Hydref.
Am fanylion, cliciwch yma:
Lawrlwythwch ffurflen archebu


Blwyddyn Bwyd a Ffermio – ewch i ymweld â fferm eleni!

Blwyddyn Bwyd a Ffermio
Yn dechrau Medi 2007 hyd Gorffennaf 2008


Ymgyrch i hyrwyddo byw’n iach trwy roi profiad uniongyrchol i bobl ifanc o gefn gwlad, ffermio a bwyd. Dyma’r flwyddyn i drio ymweliad fferm ysgol fel ‘ystafell ddosbarth awyr agored’, i gyflwyno profiadau dysgu cofiadwy ar gyfer eich pynciau cwricwlwm cenedlaethol eleni.
Cofrestrwch eich ysgol i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf ac ewch i’r ‘megamap’ yn:

Cysylltwch â’r Swyddog Prosiect PABA yn eich ardal chi, a fydd yn gallu helpu gyda threfnu ymweliad fferm. Hefyd, efallai y bydd yn gallu helpu gyda chost yr hyfforddwr.


Mae’r Prosiect yn cynnal cwrs hyfforddiant tri diwrnod ar gyfer ffermwyr sy’n cynnal ymweliadau ysgolion. Mae’r cynllun hwn, sy’n arwain at achrediad gan y Rhwydwaith Coleg Agored (OCN), wedi bod yn gweithredu yn Lloegr ers sawl blwyddyn, ac mae mwy na 600 o ffermwyr wedi’i gwblhau.

Bydd FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) Cymru, mewn cydweithrediad â’r Prosiect PABA, yn cynnal peilot o’r Hyfforddiant CEVAS cyntaf erioed ar gyfer y rheiny sy’n cynnig ymweliadau addysgol yng nghefn gwlad.

Caiff y cwrs tri diwrnod ei gwblhau ym mis Mawrth, pan fydd pob un a fydd yn cymryd rhan yn cyflwyno portffolios i gael eu safoni gan Rwydwaith y Coleg Agored.

Bydd y cwrs yn cynnwys :

Diwrnod 1 Paratoi ar gyfer Ymweliadau Fferm

  •   Rhestr wirio ar gyfer ymweliad
  •   Asesiad Risg
  •   Proffil Fferm
  •   Arfarnu

Diwrnod 2 Bwyd, Ffermio a Chefn Gwlad yn y Cwricwlwm Cenedlaethol

  •   Cyfleoedd Dysgu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol
  •   Meysydd pwnc Cyfnod Allweddol – unedau QCA
  •   Paratoi Cynllun Gwaith ar gyfer ymweliad
  •   Aseiniadau

Diwrnod 3 Siarad â Disgyblion, Myfyrwyr ac Athrawon

  •   Cyflwyno sgwrs wedi’i baratoi
  •   Rheoli trafodaeth
  •   Paratoi eich portffolio ar gyfer safoni

Cynhelir cwrs arall ym Mhowys ac mewn rhan arall o Gymru yn y dyfodol felly cysylltwch â’r Prosiect PABA ar gyfer manylion cwrs Powys, neu Jane Powell o FACE Cymru os y tu allan i Bowys, cyswllt: jnp@aber.ac.uk



Ymchwilydd Prifysgol yn ymweld â’r Prosiect PABA

Tua chanol mis Hydref, fe wnaeth Laura Davis o Brifysgol Warwick ymweld â’r Prosiect PABA am ddeuddydd, i weld beth mae’r prosiect yn ei gyflawni drosti hi ei hun. Mae Laura yn gysylltiedig ag Adolygiad Canol Tymor y Strategaeth Fwyd a Lles ar gyfer Cymru. Mae’r Strategaeth ‘Fwyd a Lles’, http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=499Àd=13299
a lansiwyd yn Chwefror 2003, yn rhoi ffocws i wella diet a statws maethol poblogaeth Cymru. Mae hyn wedi’i gefnogi ymhellach gan lansiad Her Iechyd Cymru a strategaethau eraill sy’n ceisio cyrraedd grwpiau penodol o fewn y boblogaeth, er enghraifft pobl oedrannus, plant a phobl ifanc.

Yn ystod ei hymweliad, aeth Laura i ymweld ag Ysgol GG Dolfor ger Y Drenewydd i weld y plant yn gwneud Sciwars Ffrwythau a Llyfn-ddiodydd Ffrwythau. Arhosodd yn yr ysgol i gael cinio, a siaradodd â chogydd yr ysgol, yr athrawon a’r plant am eu profiadau hwy. Ar ei hail ddiwrnod, ymunodd â babanod o Ysgol GG Aberhafesb yn Fferm Offa. Yn nhywydd mwyn yr hydref, fe wnaeth y plant ddarganfod llysiau yn tyfu yn y caeau, a chawsant eu llaeth o amgylch ‘bwrdd’ yn yr ysgubor, yn eistedd ar fyrnau gwellt.

Mae’r ffyrdd y mae’r Prosiect PABA yn gweithio i ailgysylltu plant i’w gweld fel astudiaeth achos unigryw yn yr Adolygiad Canol Tymor. ‘Roeddwn yn gwerthfawrogi’r cyfle i siarad â Laura am ei phrofiad hi, a sut y gallwn fynd ati i werthuso prosiect o’r natur hwn yn effeithiol’ meddai Caroline wedyn.

 


 

PYTHEFNOS FWYD PRYDEINIG LLWYDDIANNUS IAWN

Y pumed Pythefnos Fwyd Prydeinig, a gynhaliwyd rhwng 23 Medi a 8 Hydref 2006, oedd y dathliad cenedlaethol mwyaf ERIOED o’r amrywiaeth eang a blasus o fwyd a gaiff ei gynhyrchu ym Mhrydain. Noddwyd y digwyddiad hwn gan Aramark, Budgens, Londis a Nationwide, ac roedd yn cynnwys Her Goginio Pyrex ar gyfer ysgolion.

Thema’r digwyddiad eleni oedd ‘A ydych yn ei Goginio?’, a chefnogwyd y digwyddiad gan werthwyr, arlwywyr ac ysgolion, a drefnodd amrywiaeth o ddigwyddiadau a hyrwyddiadau ar draws y wlad. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys:

· Mwy o hyrwyddiadau nag erioed o’r blaen mewn siopau … Cynigiwyd nifer o hyrwyddiadau a chyfleoedd i flasu gan 2,200 o siopau Budgens a Londis, 300 o delicatessens, siopau annibynnol, siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr, er mwyn temtio’r cyhoedd i ddefnyddio cynhwysion Prydeinig tymhorol tra’n coginio gartref. Mae adroddiadau cynnar yn awgrymu y bu cynnydd o 25% neu fwy yn ystod y pythefnos yn y nifer o gwsmeriaid yn y siopau a fu’n cymryd rhan, yn ogystal â chynnydd anhygoel o 50% yng ngwerthiant y cynhyrchion y cynigiwyd cyfle i’w blasu. Am y tro cyntaf erioed, fe wnaeth tri o archfarchnadoedd mwyaf Prydain gynnig hyrwyddiadau Prydeinig yn ystod y digwyddiad.

· Y sector arlwyo yn cael llwyfan am y tro cyntaf … Cafodd bwyd Prydeinig ei roi ar filoedd o fwydlenni mewn tafarndai, bwytai, ysbytai a chantîns staff gan bump o’r grwpiau gwasanaethu bwyd mwyaf, dan arweiniad ARAMARK, tri grwp o dafarndai a’r holl gymdeithasau cogyddion. Fe wnaeth hyd yn oed un o’r bwytai Indiaidd enwocaf yn Llundain ymuno â ni, gan ddefnyddio cynhwysion Prydeinig yn ei fwyd.

· Achub y Blaen ar Jamie Oliver…Mae Jamie Oliver a’r Llywodraeth yn dechrau galw ar ysgolion i gynnig gwersi coginio, ond mae Pythefnos Fwyd Prydeinig eisoes yn arwain y ffordd. Cyn y digwyddiad, dosbarthwyd y ganllaw gyntaf erioed ar gynnwys coginio o fewn y cwricwlwm i 26,000 o ysgolion. O ganlyniad, rhoddwyd gwersi coginio i filoedd o blant yn ystod y Pythefnos. Mewn cam arloesol, fe wnaeth mudiadau yn cynrychioli dros 3,000 o gogyddion gydweithio ag ysgolion i gynnig eu gwasanaethau yn y dosbarth, ac i helpu athrawon i drefnu gweithgareddau coginio ymarferol. Y nod yw i ddynwared y Ffrancod, sy’n anfon cogyddion i mewn i ysgolion yn rheolaidd, er mwyn addysgu plant am eu bwydydd cenedlaethol.

· Ysbryd cystadleuol yn annog plant i goginio …cynhaliwyd amrywiaeth o gystadlaethau coginio yn ystod y Pythefnos. Fe wnaeth siopau Budgens a Londis gydweithio ag ysgolion lleol ar gyfer cystadleuaeth i gynllunio Het Cogydd yn dangos cynnyrch lleol; trefnodd ARAMARK gystadleuaeth ‘Creu Rysait ar gyfer Afalau Coginio’ i ysbrydoli plant ysgol i ddechrau coginio. Hefyd, gwahoddwyd yr holl ysgolion i gymryd rhan yn Her Goginio Pyrex er mwyn dod o hyd i’r ysgol sy’n cynnwys coginio o fewn y cwricwlwm yn y ffordd fwyaf arloesol a dychmygol. Cyhoeddir yr enillydd yng nghanol mis Tachwedd.

· Cyrraedd cynulleidfa eang …fe wnaeth Pythefnos Fwyd Prydeinig eleni gyrraedd mwy o’r cyhoedd nag erioed o’r blaen. Cynhaliwyd miloedd o ddigwyddiadau ar draws y sir, gyda gwyliau bwyd yng Nghanolbarth Lloegr, Gorllewin Sussex, Swydd Lincoln, Malvern, Swydd Efrog, Caerfaddon, Dyfnaint a Chernyw; ‘welly walks’; arddangosfeydd coginio; ‘foraging forays’ a dathliadau arbennig ar gyfer y cynhaeaf. Ac yn y wasg, cafodd y digwyddiad ei fawrygu gan Terry Wogan, Jonathan Ross, the World Tonight, the Archers, GMTV, Saturday Kitchen, Saturday Cooks a phob papur newydd cenedlaethol. Mae ffigyrau cychwynnol yn awgrymu fod y digwyddiad wedi cyrraedd cynulleidfa o 250 miliwn.

Dywed Alexia Robinson, trefnydd Pythefnos Fwyd Prydeinig: “Bob blwyddyn, mae Pythefnos Fwyd Prydeinig yn mynd yn fwy, ac yn fwy llwyddiannus. Mae’n rhoi cymhelliant masnachol i werthwyr ac arlwywyr stocio bwyd Prydeinig, gan ei wneud yn haws i’r cyhoedd gael gafael arno, ac ysbrydoli ysgolion i’w gynnwys wrth iddynt addysgu’r cwricwlwm.

“ Erbyn hyn, mae mudiadau sy’n cynrychioli 43,820 o siopau, 11,560 o dafarndai, 43,300 o fwytai, 5,800 o gogyddion, mannau sy’n gwasanaethu twristiaid sy’n derbyn 16 miliwn o ymwelwyr a grwpiau sy’n cynrychioli ¼ miliwn o wirfoddolwyr yn cymryd rhan yn y digwyddiad bob blwyddyn. Hwn yw’r unig ddigwyddiad sy’n dod â’r holl grwpiau hyn ynghyd. Gyda chymaint â hyn o gefnogaeth, mae Pythefnos Fwyd Prydeinig mewn sefyllfa dda i newid arferion bwyta’r wlad!”

Cynhelir Pythefnos Fwyd Prydeinig 2007 rhwng 22 Medi a 7 Hydref 2007. Am ragor o wybodaeth gweler www.britishfoodfortnight.co.uk


Prosiect Tair Blynedd newydd PABA yn cael ei lansio gan y Dirprwy Weinidog yn y Sioe Fawr

Roedd haul crasboeth dydd Mawrth y Sioe Fawr ym Mhafiliwn Sir Drefaldwyn (y swydd nawdd) wrth ymyl y prif gylch yn lleoliad delfrydol ar gyfer y digwyddiad hwn. Daeth nifer o athrawon, cynghorwyr, ffermwyr a chynrychiolwyr mudiadau partner (yn cynnwys Addysg Ffermio a Chefn Gwlad (FACE), yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE), Cyngor Cefn Gwlad Cymru, yr Eglwys yng Nghymru a Thwristiaeth Canolbarth Cymru) at ei gilydd ar gyfer y seremoni lansio.

Ar ôl cwblhau prosiect peilot deuddeg mis yn 2005, mae Prosiect PABA wedi ennill cyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, a chefnogaeth barhaol Adran Addysg Cyngor Sir Powys i ymestyn dros dair blynedd, i gynnig gwasanaethau ac adnoddau’r prosiect i ysgolion trwy gydol Powys o fis Ebrill 2007.

 

Roedd y Dirprwy Weinidog Tamsin Dunwoody AC yn cydnabod yr agwedd unigryw sy’n cael ei ddatblygu ym Mhowys, a phwysleisiodd bwysigrwydd ‘ailgysylltu’ plant â bwyd a ffermio er mwyn eu haddysgu hwy, fel prynwyr ac aelodau o’r gymuned yn y tymor hir. Wrth gyflwyno’r digwyddiad, cyfeiriodd Antony Lewis, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru, at ei werthfawrogiad o’r bartneriaeth gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru a Chyngor Sir Powys, a gwaith caled y Bwrdd Prosiect (sy’n cynnwys athrawon a ffermwyr) sy’n cwrdd yn rheolaidd i arwain y Prosiect.

Yna, cafwyd cyfle i fwynhau bwyd hynod flasus a baratowyd gan Lavinia Vaughan, aelod o Fwrdd y Prosiect ac un o Ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru.

Cafodd byrddau arddangos a rhai o adnoddau’r Prosiect PABA eu harddangos ym Mhafiliwn Sir Drefaldwyn trwy gydol yr wythnos, oherwydd hyd yn hyn, mae’r Prosiect wedi’i gyfyngu i Ysgolion Sir Drefaldwyn (Y gwanwyn nesaf, bydd y prosiect yn chwilio am ragor o staff i wasanaethu ysgolion yn Ne a Gorllewin y sir).

Lansiad PABA (Ch i Dd) Caroline Davies Cydlynydd y Prosiect, Tamsin Dunwoody AC, Lavinia Vaughan ac Antony Lewis

Y Dirprwy Weinidog Tamsin Dunwoody AC, a ddaeth i ymweld â'r prosiect ym mis Chwefror, yn esbonio pam fod agwedd y Prosiect mor bwysig.

Rodd buwch newydd y Prosiect PABA yn llwyddiant ysgubol, ac fe wnaeth cannoedd o blant (a rhai oedolion!) aros i’w godro. Roedd rhai ohonynt yn llwyddiannus yn syth, ond roedd rhaid i eraill ddyfalbarhau. Roedd rhai teidiau a neiniau yn hel atgofion am y dyddiau pan yr oedd godro yn cael ei wneud â llaw, a’r arbenigedd sydd wedi’i golli erbyn hyn. Y tu allan i Bafiliwn Sir Drefaldwyn, fe wnaeth plant a oedd yn mynd heibio fwynhau godro Buwch PABA!

Menter Llysiau Cymunedau’n Gyntaf Oldford

Plannu llysiau yn Niwrnod Hwyl Cymunedau'n Gyntaf Oldford Ar ddydd Sul 30 Gorffennaf, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth, ar y cyd â Phrosiect PABA, sefydlu stondin yn Ystâd Oldford, Y Trallwng ar gyfer Diwrnod Hwyl a gynlluniwyd gan drigolion, y fforwm ieuenctid yn benodol. Cynigiwyd y cyfle i bobl botio eginblanhigion a hau hadau o’u dewis, er mwyn tyfu llysiau, salad a/neu berlysiau yn y cartref, a hynny ar batio neu ar sil ffenestr. Darparwyd amrywiaeth eang o ‘ddail’ salad fel eginblanhigion gan Dr Michele Becker o Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru, ac roedd hi ar gael i helpu’r plant a rhai o’r oedolion i’w plannu.

Bu dros 50 o bobl yn plannu mwy na 100 o botiau o bob maint. Dewisodd rhai i blannu bwced o datws. Roedd blodfresych yn boblogaidd iawn gyda’r bechgyn, ond y mwyaf poblogaidd oedd potiau cymysg o ddail salad, y gellir eu tynnu o’r pot fel y mae eu hangen, a byddant yn parhau i dyfu! Yn bennaf, y trigolion hyn a ddewisodd blannu perlysiau ar gyfer eu sil ffenestr.

Roedd Hannah Guntrip, Swyddog Prosiect Cymunedau’n Gymtaf ac Yvonne Jones, pennaeth Ysgol Fabanod Oldford yn llawn clod ar gyfer y fenter. Hefyd, gwnaeth buwch y Prosiect PABA ymddangosiad, yn ffres o fod yn y Sioe Fawr. Fodd bynnag, y tro hwn, fe wnaeth y cawodydd glaw rheolaidd effeithio rhywfaint ar ei hwyl!

Roedd Caroline Davies ar y stondin trwy’r dydd, ac roedd yn mwynhau gweld diddordeb bywiog y plant, a oedd yn awyddus i ddysgu am dyfu pethau. “Rwy’n gobeithio y bydd eu rhieni’n gallu dod o hyd i le ar gyfer yr holl botiau” dywedodd hi ar ôl y digwyddiad.


ASIANTAETH SAFONAU BWYD CYMRU YN CYHOEDDI FOD PROSIECT CAFE WEDI ENNILL GWOBR ‘AFAL’
(Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol)

Caroline Davies

Mae Prosiect CAFE (Plant, Amaeth, Bwyd ac Amgylchedd) wedi cael ei gydnabod gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru fel rhan o Gynllun Gwobrau AFAL 2006. Mae’r gwobrau, a lansiwyd yn Nhachwedd 2003, yn gynllun i gydnabod cyfraniadau unigolion neu dimoedd i fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddiet neu arferion bwyta yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Cyflwynwyd y Wobr o £1000 a bowlen ffrwythau i Caroline Davies, Cydlynydd y Prosiect gan Dr Peter Stevenson, Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lleol ar gyfer Wrecsam, yng Nghynhadledd Maethiad yr Asiantaeth yn Wrecsam ym mis Mai. Rhoddodd Caroline gyflwyniad ar y Prosiect i gynulleidfa fawr, a ddaeth yn bennaf o’r sector iechyd yng Nghymru. Yn ystod y cyflwyniad, pwysleisiodd bwysigrwydd ‘ailgysylltu’ pobl â chynhyrchu bwyd, ac addysgu sgiliau coginio i bobl ifanc.


Ymweliadau Fferm – Digwyddiad Rhwydweithio Cyntaf!

Fe wnaeth dros 30 o bobl fynychu’r cyntaf o’r digwyddiadau hyn, a gynhaliwyd ger Y Drenewydd ar 10 Mai. Cyfarfu athrawon a ffermwyr sy’n cynnig ymweliadau i ysgolion yn Fferm Dyffryn, Aberhafesb ger Y Drenewydd ar ôl ysgol. Cynhaliwyd y digwyddiad hwn gan Dave a Sue Jones, y mae eu fferm organig yn perthyn i raglen ‘Mynediad Addysgol’ y cynllun amaeth-amgylchedd Tir Gofal. Fe wnaeth yr ymwelwyr fwynhau taith gerdded o amgylch y fferm, gyda phlant o Ysgol Aberhafesb yn arddangos sut i archwilio pyllau dwr. Roedd yr athrawes ymgynghorol Jan Rees yn frwdfrydig ynglyn â’r profiadau dysgu amrywiol yr oedd fferm deuluol yn ei ddarparu - yn ôl Jan, byddai ymweliadau rheolaidd i alluogi dysgu trwy ddod yn gyfarwydd yn cynnig cyfleoedd dihafal ar gyfer pynciau fel pethau byw, y tymhorau ac, wrth gwrs, bwyd.

Gofynnwyd am ymweliadau fferm, ac aeth yr athrawon ag adnoddau ar gyfer eu hysgolion gyda hwy. Roedd nifer o’r adnoddau hyn yn ddwyieithog. Roedd y gweithgareddau dilynol y gofynnwyd amdanynt yn cynnwys cymorth i ddynodi ffermydd lleol, cynnal asesiadau risg ac ymweld â Marchnad Ffermwyr Y Trallwng i gwrdd â chynhyrchwyr.

Gwnaeth y digwyddiad argraff dda ar Jane Powell, a oedd yn cynrychioli FACE (Ffermio ac Addysg Cefn Gwlad) yng Nghymru, sy’n cefnogi’r digwyddiadau hyn. Mae prosiect CAFE yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau mewn gwahanol rannau o’r sir yn y misoedd sydd i ddod.

Roedd Caroline Davies, Cydlynydd y Prosiect, yn falch fod y prosiect wedi sicrhau tair blynedd arall o gyllid gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, o Ebrill 2006. Mae cefnogaeth barhaol Adran Plant, Teuluoedd a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys wedi cynnal y prosiect ers diwedd y cyfnod peilot ym mis Ionawr eleni. Dylai’r cylchlythyr cyntaf fod ar gael yn fuan, a bydd ‘Portffolio Gweithiol’ o wybodaeth i ysgolion yn cael ei anfon at bob ysgol yn Sir Drefaldwyn.

Portffolio Gwaith ar gyfer Ymweliadau Fferm

Yn fuan, bydd holl ysgolion yn Sir Drefaldwyn yn derbyn ffolder ym mhost yr AALl, a fydd yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol i’w helpu i gael eu plant allan i’r ffermydd. Bydd y ffeiliau hyn yn cynnwys y cwricwlwm cenedlaethol, asesiad risg, materion ymarferol er enghraifft cludiant, ynghyd â chysylltiadau a gwybodaeth ar ffermydd lleol lle mae’r teulu sy’n ffermio yn cynnig ymweliadau yn wirfoddol. Dylai’r ffeil fod yn adnodd gwerthfawr, naill ai i ddechrau neu i ddatblygu potensial ymweliadau fferm.

Hyfforddiant Glendid Bwyd Sylfaenol

Mae gan y Prosiect CD-ROM gan ‘Creative Learning Solutions’, ac mae lleoedd ar gael ar hyfforddiant ar gyfer y dystysgrif mewn Glendid Bwyd Sylfaenol. Mae’r rhain yn addas ar gyfer unrhyw un o 10 mlwydd oed, ac maent yn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â pharatoi a thrafod bwyd. Gellir cwblhau’r hyfforddiant gan ddefnyddio eich cyfrifiadur eich hun. Cysylltwch â’r prosiect os oes diddordeb gennych.

DYDDIADAU MARCHNADOEDD FFERMWYR 2008

Bydd yr holl farchnadoedd yn cael eu gosod i fyny o 2.30pm, byddant ar agor o 3pm, ac fel arfer byddant yn gorffen am oddeutu 5.30pm. Mae ysgolion yn codi £5 y bwrdd, a bydd y CRhA yn gwerthu lluniaeth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Caroline Davies ar 01938 810302

 

Nod y prosiect PABA (Plant, Amaeth, Bwyd ac Addysg) yw:
  • datblygu rhaglen beilot o ymweliadau rhwng ysgolion/ffermydd yn Sir Drefaldwyn
  • cefnogi ac ysgogi athrawon a darlithwyr i ymweld â ffermydd
  • gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Addysg Powys, y sectorau bwyd, ffermio a thwristiaeth
  • creu a monitro banc adnoddau ar ymweliadau fferm.

Caroline Davies Caroline Davies yw Cydlynydd Prosiect CAFE (rhan-amser) gan weithio yn Sir Drefaldwyn. Mae Caroline yn ffermio yng Nghanolbarth Cymru ac wedi gweithio ym maes economi cefn gwlad yng Ngogledd Cymru gydag ADAS/FRCA, gan arbenigo mewn bwyd a thwristiaeth. Mae ganddi ddau o blant, Huw 10 oed ac Elizabeth 7 oed, ac mae hefyd yn llywodraethwr yn yr ysgol gynradd.
Rheolir Prosiect Café gan: Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru gyda nawdd gan Gyngor Cefn gwlad Cymru a’r Laura Ashley Foundation, gyda chymorth o fath arall gan Gyngor Sir Powys, ffermwyr, athrawon ac eraill.
Cyngor Cefn Gwlad Cymru  Powys          
i’r