|
|
Sir Drefaldwyn
|
 |
Caroline Davies yw Cydlynydd Prosiect
CAFE (rhan-amser) gan weithio yn Sir Drefaldwyn.
Mae Caroline
yn ffermio yng Nghanolbarth Cymru ac wedi gweithio ym maes
economi cefn gwlad yng Ngogledd Cymru gydag ADAS/FRCA,
gan arbenigo mewn bwyd a thwristiaeth. Mae ganddi ddau o
blant,
Huw 10 oed ac Elizabeth 7 oed, ac mae hefyd yn llywodraethwr
yn yr ysgol gynradd. |
|
|
Ymweliadau Fferm yn yr Hydref – Bioamrywiaeth ar y Fferm
Mewn ymgynghoriad â’n hariannwyr, sef Cyngor Cefn
Gwlad Cymru a’r Fforwm ESD&GC ym Mhowys, rydym ar gael
i hwyluso ymweliadau Fferm Ysgolion yr hydref hwn, gyda phwyslais
arbennig ar bioamrywiaeth a dysgu sgiliau, a hynny ar gyfer plant
o bob oed.
Yn aml, profiad personol uniongyrchol yw’r ffordd orau
i ddisgyblion ddod i’r afael â’r cysyniadau
hyn a’r materion cymhleth. Mae trip ysgol – wedi’i
gynllunio’n dda rhwng yr athro a’r ffarmwr – yn
cynnig lleoliad cofiadwy i weld, cyffwrdd â, a deall realiti
bioamrywiaeth. Gall plant weld eu hunain beth sydd yna, gallant
glywed gan y ffarmwr sut y gall bethau fod wedi newid yn ddiweddar,
a gallant ddysgu pa gamau y mae’r ffarmwr yn eu cymryd
i hyrwyddo bioamrywiaeth yn lleoliad y ffarm lleol. Mae nifer
o’r ffermwyr gwirfoddol sy’n gweithio gyda’r
Prosiect PABA yn rhan o Gynllun Amaethyddol Amaeth-Amgylcheddol
Tir Gofal, ac mae rhai yn organig a/neu’n ymwneud â datblygu
arfer da.
Tyfu eich tatws eich hun yn 2009
Cofrestrwch nawr!
Yn 2008, fe wnaeth 48 o Ysgolion Powys gofrestru a derbyn bagiau
o datws hadyd a thaleb i brynu compost yn ogystal â chyfarwyddiadau
a phosteri!
Gallwch gymryd rhan YN RHAD AC AM DDIM, a bydd yr ysgolion hynny a wnaeth gymryd
rhan eleni (2008) yn derbyn e-bost yn eu gwahodd i gymryd rhan yn 2009. Yn
ogystal, mae’r Cyngor Tatws yn cynnig 2000 o becynnau tyfu arall i alluogi
i hyd yn oed mwy o ysgolion fanteisio o’r prosiect. Bydd y rhain ar gael
i’r 2000 ysgol cyntaf a fydd yn cofrestru ar-lein.
Cliciwch ar y botwm isod i gofrestru, dim ond os na wnaethoch gofrestru
y llynedd!
http://www.potatoesforschools.org.uk/
|


Disgyblion o Ysgol Gynradd Sirol Llanfihangel
Rhydieithon yn archwilio’r goedwig gyda’r ffarmwr Alex
Higgs ym mis Mehefin 08
Tyfu Llysiau yn yr Ysgol?
Mae nifer o ysgolion wedi cysylltu â ni i ofyn am gyngor,
gwybodaeth a chyllid ar gyfer garddio mewn ysgolion – tyfu
bwyd yn hytrach na blodau i gysylltu â’r Cwricwlwm
Cenedlaethol a dysgu sgiliau ymarferol.
Am becyn gwybodaeth rhad ac am ddim cynhwysfawr, cysylltwch â ‘Garden
Organic’.
‘Garden Organic’ – cyswllt
ar gyfer ysgolion |
| |
|
Menter Llysiau Cymunedau’n Gyntaf
Oldford
|
Ar ddydd Sul 30 Gorffennaf, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth, ar y
cyd â Phrosiect PABA, sefydlu stondin yn Ystâd Oldford,
Y Trallwng ar gyfer Diwrnod Hwyl a gynlluniwyd gan drigolion, y
fforwm ieuenctid yn benodol. Cynigiwyd y cyfle i bobl botio eginblanhigion
a hau hadau o’u dewis, er mwyn tyfu llysiau, salad a/neu
berlysiau yn y cartref, a hynny ar batio neu ar sil ffenestr. Darparwyd
amrywiaeth eang o ‘ddail’ salad fel eginblanhigion
gan Dr Michele Becker o Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth
Cymru, ac roedd hi ar gael i helpu’r plant a rhai o’r
oedolion i’w plannu.
Bu dros 50 o bobl yn plannu mwy na 100 o botiau o bob maint. Dewisodd
rhai i blannu bwced o datws. Roedd blodfresych yn boblogaidd iawn
gyda’r bechgyn, ond y mwyaf poblogaidd oedd potiau cymysg
o ddail salad, y gellir eu tynnu o’r pot fel y mae eu hangen,
a byddant yn parhau i dyfu! Yn bennaf, y trigolion hyn a ddewisodd
blannu perlysiau ar gyfer eu sil ffenestr.
Roedd Hannah Guntrip, Swyddog Prosiect Cymunedau’n Gymtaf
ac Yvonne Jones, pennaeth Ysgol Fabanod Oldford yn llawn clod ar
gyfer y fenter. Hefyd, gwnaeth buwch y Prosiect PABA ymddangosiad,
yn ffres o fod yn y Sioe Fawr. Fodd bynnag, y tro hwn, fe wnaeth
y cawodydd glaw rheolaidd effeithio rhywfaint ar ei hwyl!
Roedd Caroline Davies ar y stondin trwy’r dydd, ac roedd
yn mwynhau gweld diddordeb bywiog y plant, a oedd yn awyddus i
ddysgu am dyfu pethau. “Rwy’n gobeithio y bydd eu rhieni’n
gallu dod o hyd i le ar gyfer yr holl botiau” dywedodd hi
ar ôl y digwyddiad.
|
|
Ymweliadau Fferm – Digwyddiad Rhwydweithio
Cyntaf!
|
|
|
| Fe wnaeth dros 30 o bobl fynychu’r cyntaf o’r
digwyddiadau hyn, a gynhaliwyd ger Y Drenewydd ar 10 Mai. Cyfarfu
athrawon a ffermwyr sy’n cynnig ymweliadau i ysgolion yn Fferm
Dyffryn, Aberhafesb ger Y Drenewydd ar ôl ysgol. Cynhaliwyd
y digwyddiad hwn gan Dave a Sue Jones, y mae eu fferm organig yn
perthyn i raglen ‘Mynediad Addysgol’ y cynllun amaeth-amgylchedd
Tir Gofal. Fe wnaeth yr ymwelwyr fwynhau taith gerdded o amgylch
y fferm, gyda phlant o Ysgol Aberhafesb yn arddangos sut i archwilio
pyllau dwr. Roedd yr athrawes ymgynghorol Jan Rees yn frwdfrydig
ynglyn â’r profiadau dysgu amrywiol yr oedd fferm deuluol
yn ei ddarparu - yn ôl Jan, byddai ymweliadau rheolaidd i alluogi
dysgu trwy ddod yn gyfarwydd yn cynnig cyfleoedd dihafal ar gyfer
pynciau fel pethau byw, y tymhorau ac, wrth gwrs, bwyd. |
|
Gofynnwyd am ymweliadau fferm, ac aeth yr athrawon ag adnoddau
ar gyfer eu hysgolion gyda hwy. Roedd nifer o’r adnoddau
hyn yn ddwyieithog. Roedd y gweithgareddau dilynol y gofynnwyd
amdanynt yn cynnwys cymorth i ddynodi ffermydd lleol, cynnal asesiadau
risg ac ymweld â Marchnad Ffermwyr Y Trallwng i gwrdd â chynhyrchwyr.
|
 |
Gwnaeth y digwyddiad argraff dda ar Jane Powell, a oedd yn cynrychioli
FACE (Ffermio ac Addysg Cefn Gwlad) yng Nghymru, sy’n cefnogi’r
digwyddiadau hyn. Mae prosiect CAFE yn bwriadu cynnal mwy o ddigwyddiadau
mewn gwahanol rannau o’r sir yn y misoedd sydd i ddod.
|
| Roedd Caroline Davies, Cydlynydd y Prosiect,
yn falch fod y prosiect wedi sicrhau tair blynedd arall o gyllid
gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, o Ebrill 2006. Mae cefnogaeth barhaol
Adran Plant, Teuluoedd a Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir Powys wedi cynnal
y prosiect ers diwedd y cyfnod peilot ym mis Ionawr eleni. Dylai’r
cylchlythyr cyntaf fod ar gael yn fuan, a bydd ‘Portffolio
Gweithiol’ o wybodaeth i ysgolion yn cael ei anfon at bob ysgol
yn Sir Drefaldwyn. |
|
| |
|