English

Sir Faesyfed


Jane Evans


YMWELIADAU FFERM

Yn ystod tymor yr haf, aeth plant o Ysgol G.G. Llanfihangel Rhydieithon ar Ymweliad Fferm i Fferm Cwmfron, Tylwch. Roedd y gweithgareddau a gynhaliwyd yn y bore yn cynnwys taith o amgylch y fferm gyda’r ffermwyr Alex a Jo Higgs. Fe wnaeth y plant fwynhau cwrdd â’r ceffylau, gwartheg, defaid ac ieir, a chawsant gyfle i gyffwrdd â’r tarw mawr (ond eithaf dof). Ar ôl taith gerdded byr i lawr y dyffryn i’r ffermdy i gael cinio, treuliodd y grwp awr pleserus iawn yn dipio afonydd, yn adnabod bywyd gwyllt ac yn adeiladu obelisgau.

Ar ddechrau tymor yr hydref, fe wnaeth Ysgol yr E yng Ngh a Reolir Tref-y-clawdd (Bl 5 a 6) ymweld â fferm Rachel a Philip Layton, sydd wedi’i leoli yn Nolau, sydd o fewn 20 munud i’w hysgol. Mae’r fferm yn cynnwys nifer o ffermydd llai, a gafodd eu prynu gan eu teulu dros y deugain mlynedd diwethaf, yn cynnwys Blaen-y-Cwm Mawr, Nantleach, Little Park, Brynlefrith, Blaen-y-Cwm, a'r fferm a brynwyd yn fwyaf diweddar, Caergynant.

Roedd y tywydd ar ddiwrnod yr ymweliad yn dda. Dangoswyd disgyblion o amgylch y fferm, a chafodd y plant gyfle i weld ac i gyffwrdd â gwartheg, lloi, defaid ac amrywiaeth o beiriannau fferm. Dilynwyd hyn gan ymweliad â'r safle bwtsiera, gydag arddangosfeydd o wneud selsig a pharatoi cig. Dechreuodd y prynhawn gyda thaith gerdded cyflym i Gaergynant, lle y gwnaeth y disgyblion wylio'r cneifio a oedd yn digwydd, a lle cawsant gyfle i drafod y gwahaniaeth rhwng ffermio organig a ffermio nad yw'n organig.

MARCHNADOEDD FFERMWYR YSGOLION

Mae Marchnadoedd Ffermwyr Ysgolion newydd wedi’u cynnal gan Llanandras a Thref-y-clawdd, a bydd Llanfihangel Rhydieithon yn cynnal ei marchnad gyntaf ar 11 Rhagfyr.


GLENDID A THRAFOD BWYD

Yn ystod sesiwn coginio brysur (yn gwneud crymblau ffrwythau a 'flapjacks') i wneud cynnyrch ar gyfer stondin yr ysgol ym Marchnad Ffermwyr Ysgolion cyntaf Tref-y-clawdd, sylwyd fod angen i ddisgyblion wella eu gwybodaeth am 'lendid bwyd'. Gwnaed trefniadau i gyflwyno sesiynau i blant o bob oed yn ystod 'wythnos iach' yr ysgol. Themâu allweddol y sesiynau oedd 'golchi dwylo' a 'sut y mae germau yn tyfu'. Gwnaethpwyd cysylltiadau â'r ymweliad fferm, o ran glanweithdra ardaloedd paratoi'r safle bwtsiera, gyda grwpiau a oedd wedi ymweld â'r fferm. Cafodd yr arbrawf ymarferol canlynol ei wneud gyda grwpiau o bob oed.
DANGOS SUT Y MAE GERMAU'N TYFU
Mae'r arddangosfa syml hon yn dangos faint yn gyflymach y mae germau'n tyfu ar fwrdd - neu ar eich bysedd - yn hytrach nag yn yr oergell.
Gan weithio mewn parau, rhoddwyd dau ddysgl bach i ddisgyblion. Roedd chwarter cwpan o ddwr oer mewn un dysgl, a chwarter cwpan o ddwr cynnes yn y llall. Ychwanegwyd hanner llwy o siwgwr i bob dysgl, ac yna llwy de o furum. Fe wnaeth y plant droi'r dysglau a gwylio'r toddiannau tra'n cymryd rhan mewn gweithgaredd tynnu llun byr. Mewn ychydig o funudau, roedd gan y disgyblion dystiolaeth clir y bydd burum yn tyfu'n llawer cyflymach ar dymheredd ystafell o'i gymharu â sut y bydd yn tyfu mewn oergell…ac yna gellir gwneud cymhariaethau gyda germau eraill yn hawdd.
Cafodd cynnwys pob sesiwn ei addasu yn ôl oed/gallu, a chafodd y sesiynau eu hystyried yn hwyl ac yn effeithiol.

DIWRNODAU DIWYDIANT

Mae diwrnodau diwydiant mewn ysgolion cynradd yn un enghraifft o’r ffyrdd dychmygol yr ydym wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid (Gyrfa Cymru) i atgyfnerthu’r syniad o fwyd iach a chysylltiadau â chynnyrch lleol, ffermio a’r amgylchedd i ddisgyblion o bob oed. Mae hwyl yn ganolog i bob sesiwn. Mae disgyblion yn Ysgol Neuadd Brynllywarch, Ysgol Cedewain ac Ysgol Penmaes wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n gysylltiedig â chadwraeth amgylcheddol, bwyd a ffermio, yn cynnwys gwneud smwthis ffrwythau a bwydwyr adar!