English

 
 
Ysgolion Bro
 
PYTHEFNOS BWYD PRYDAIN
Jamie Oliver
Brosiect Llaeth Ysgol
National Association of Field Studies Officers
Canolfan Organic Cymru
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Bwyd yng nghwricwlwm yr ysgol
FACE yng Nghymru
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn
Oxfam
Europe Direct
       

Adnoddau:

EUROPE DIRECT – Adnoddau am ddim i ysgolion

Mae Fiona Harris yn cydlynu gwaith trosglwyddo gwybodaeth Europe Direct ym Mhowys. Fe’i lleolir yn Nhy Ladywell Y Drenewydd, ac mae’r swyddfa yn un o chwech ar draws Cymru a 700 ar draws Ewrop, sy’n darparu cyngor a gwybodaeth i 450 miliwn o bobl ar draws y 27 gwlad sy’n aelodau o’r UE. Nod Europe Direct yw i gynnig gwybodaeth gyffredinol am faterion yr UE mewn unrhyw un o ieithoedd swyddogol yr UE, ateb cwestiynau ar unrhyw un o bolisïau’r Undeb Ewropeaidd a darparu gwybodaeth ymarferol ar ddwsinau o bynciau.

Mae Europe Direct yn awyddus iawn i gysylltu â phlant o bob oed. Mae yna nifer o gyhoeddiadau AM DDIM ar gael i ysgolion, a gellir archebu’r rhain trwy Fiona. Ewch i www.ec.europa.eu am wybodaeth am yr UE. Mae’r Gornel Darllen Hawdd yn dangos rhai o’r eitemau sydd ar gael. Mae’r wybodaeth yn gysylltiedig â nifer o bynciau, yn cynnwys bwyd, yr amgylchedd, newid yn yr hinsawdd, diwylliant, daearyddiaeth. Ffoniwch Fiona ar 01686 611050 neu anfonwch e-bost at fharris@wcva.org.uk i drafod ymhellach.

Ysgolion Bro

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn diffinio Ysgol Fro fel un sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau, yn aml y tu hwnt i’r diwrnod ysgol, i helpu i gwrdd ag anghenion ei disgyblion, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach. Felly, mae’r Tîm Ysgolion Bro wedi ehangu’n ddiweddar i gynnwys dau Gydlynydd Ysgolion Bro ar gyfer Gogledd a De Powys.

Mae dros 20 prosiect Ysgolion Bro wedi’u hariannu o 2005 hyd at ddiwedd Mawrth 2008. Mae’r Tîm Ysgolion Bro yn gweithio’n agos gyda’r tîm PABA i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau y Tu Allan i Oriau Ysgol ac allgyrsiol ar gyfer disgyblion ysgol a’u teuluoedd, yn cynnwys:
· Gofal cofleidiol · Clybiau brecwast
· Clybiau ar ôl ysgol · Gweithgareddau cyn ysgol
· Clybiau chwaraeon · Clybiau gwyliau
· Cyrsiau a gweithgareddau TGCh · Prosiectau amgylcheddol

Am ragor o wybodaeth ynglyn ag Ysgolion Bro, cysylltwch ag un o’r swyddogion isod:

Y Tîm Ysgolion Bro: Karen Finucane a Jacquie Brown (Ffôn 01597 826000): (Canol / De Powys) Sheela Hughes (01691 648044) a Hywel Roberts (Ffôn 01938 552404): (Gogledd Powys)


Un o brif amcanion Prosiect CAFE yw creu banc adnoddau i ysgolion sydd ar gael i bawb. Ceir llawer o ddeunyddiau gwych ar y we neu ar gopi caled – yn aml yn rhad ac am ddim – gan gynnwys ar CD ROM a thaflenni gwaith y gellir eu llungopïo. Gan nad oes gan athrawon yr amser i chwilio am y rhain, mae’r prosiect wedi gallu helpu. Ar hyn o bryd yr adnodd mwyaf defnyddiol a diweddaraf sydd ar gael i’w lawr lwytho yw o wefan Pythefnos Bwyd Prydain:

PYTHEFNOS BWYD PRYDAIN – SUT I GYMRYD RHAN

I lawr lwytho copi o rifyn 2005 o ‘Putting the ‘Ooo’ back into food – A Resource Pack for Schools’, cliciwch yma. Dyma gasgliad A4 gwych o syniadau a ffynonellau gwybodaeth.

I lawr lwytho copi o rifyn 2005 ‘Britain’s Regional Food & Drink – Advice for Retailers & Caterers’, yn cynnwys gwybodaeth i dai bwyta, tafarndai a siopau ar sut i gymryd rhan ym Mhythefnos Bwyd Prydain, cliciwch yma.

Cliciwch yma i gael poster y gallwch ei lawr lwytho i’w ddangos yn eich siop, tafarn, bwyty neu ysgol.

Os hoffech gopi caled o’r deunyddiau hyn, anfonwch e-bost at info@britishfoodfortnight.co.uk

 

Gwefan Jamie Oliver

...i archebu pecyn i ysgolion.

Adnoddau am ddim gan Brosiect Llaeth Ysgol

Y National Association of Field Studies Officers (NAFSO)

Yw’r unig gorff yn y DG sy’n cynrychioli pobl broffesiynol sy’n gweithio ym maes dysgu, datblygu a hybu astudiaethau gwaith maes. Corff gwirfoddol yw hwn sy’n ceisio lledaenu arfer da ymhlith ei aelodau a sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli’n genedlaethol.

Mae gan NAFSO aelodau mewn canolfannau ledlèd y DG, gan gynnwys rhai o dan adain awdurdodau lleol yn ogystal â mudiadau annibynnol ac elusennol.

Mae’r Gymdeithas yn cynhyrchu amrywiaeth o gyhoeddiadau ac yn trefnu gweithgareddau hyfforddi trwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys cynhadledd dri diwrnod ym mis Ionawr.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae NAFSO wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys awdurdodau addysg lleol, Y Grid Cenedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, ‘English Nature’, Asiantaeth Cefn Gwlad a ‘Growing Schools’.

Canolfan Organic Cymru

Mae Canolfan Organig Cymru'n cydweithio â ffermydd organig ac ysgolion i hyrwyddo dealltwriaeth o fwyd a ffermio ymhlith myfyrwyr ysgol.

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Adnoddau'r Athrawon

Bwyd yng nghwricwlwm yr ysgol

Ydych chi’n awyddus i wybod mwy am y ffordd y mae’r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru yn rhoi cymorth i ddisgyblion a’u teuluoedd i fwyta’n iachach? Os felly ewch i
www.wales.nhs.uk/sites3/w-page.cfm?orgid=499&pid=10961

FACE yng Nghymru

Elusen yw FACE, neu Addysg Ffermio a Chefn Gwlad (Farming and Countryside Education), ac mae dros 50 o gyrff yn aelodau ohoni, a phob un ohonynt yn ymroddedig i waith addysgol sy’n ymwneud â bwyd, ffermio a chefn gwlad. Mae FACE yn hybu ymweliadau â ffermydd ac yn cynorthwyo i ganfod adnoddau a gweithgareddau i ategu’r ymweliadau hynny.

Ers i Tudur Aled Davies ymddeol fel cydlynydd rhanbarthol FACE yng Nghymru y llynedd mae Jane Powell o Ganolfan Organig Cymru yn Aberystwyth yn gwneud y gwaith. Bydd Jane yn gweithio gyda Prosiect PABA a phartneriaid eraill yng Nghymru i ysgogi diddordeb mewn addysg ffermio ar bob lefel, o ysgolion i’r Cynulliad.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â hi ar 01970 622248 neu ar jane@face-online.org.uk. Cewch wybodaeth hefyd am FACE, gan gynnwys adnoddau ar gyfer ysgolion, ar www.face-online.org.uk.

Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn – Gwasanaeth Addysg
Dod â Gwyddoniaeth yn Fyw

Mae gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn nifer o warchodfeydd natur sy’n addas i gael eu defnyddio gan ysgolion. Dewch i archwilio’r amrywiaeth o fywyd sydd yn Llyn Coed y Dinas ger Y Trallwng neu Bwll Penarth ger Y Drenewydd.

Gallwn gynnig rhaglenni addysg sydd wedi’u cynllunio i gefnogi’r cwricwlwm, offer gwaith maes a swyddog addysg i arwain eich ymweliad. Gall ddisgyblion brofi pob math o weithgareddau cyffrous, yn cynnwys archwilio pyllau dwr, hela bwystfilod bach a gwylio adar.

Hefyd, gall ein swyddog addysg ddod i’r ysgol i weithio gyda dosbarthiadau neu glybiau unigol.
Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn
Collot House
20 Severn Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7AD

Katie Gee
Swyddog Addysg
E-bost: katie@montwt.co.uk
Ffôn: 01938 555654
Ffacs: 01938 556161

Oxfam

Mae’r elusen Oxfam wedi cyhoeddi pecyn ar gyfer athrawon, ‘Our Food, Our World: a Let’s eat photopack for ages 5 to 9’

http://publications.oxfam.org.uk/oxfam/display.asp?K=9781870727778

Adolygiad Athro:

Mae plant yn hoffi dysgu gan blant eraill. Yn y pecyn ardderchog hwn, yr athrawon yw AA yng Ngwlad Thai, Jordan yn Ffrainc, Thembe yn Ne Africa, Luis ym Mecsico a Yamini yn India. Maent oll rhwng chwech ac wyth oed, ac rydym yn eu gweld yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau yn ymwneud â thyfu i fyny, prynu, paratoi a mwynhau bwyd.

Mae’r ffotograffau A4 clir ar gerdyn cryf. Mae AA yn siopa gyda’i nain yn yr archfarchnad ac ar stondin lysiau; mae Jordan yn helpu allan ym mar y teulu ac yn mynd i hel madarch; mae Thembe yn dringo coeden i chwilio am ffrwythau; mae Luis yn eistedd i lawr i bryd teuluol; mae Yamini yn torri moronen ac yn mynd am bicnic. Yn fuan, rydym yn sylwi fod yr holl weithgareddau hyn yn “wahanol ond yr un fath”. Mae’r dewis gofalus hwn o ddelweddau amrywiol i ddangos anghenrheidiau sy’n gyffredin yn ffordd ddelfrydol o annog archwilio a thrafod yn y dosbarth.

Mae’r llyfryn hael i athrawon yn awgrymu cyfoeth o syniadau: meddwl am o ble y daw bwyd a beth sy’n cyfrannu i gost bwyd, trafod manteision sbeislyd v plaen, gwneud rhestr o bwy sy’n coginio beth yn y cartref. Mae poster lliwgar a CD-Rom sy’n cynnwys yr holl ffotograffau ar gyfer IWB a PC, gydag atyniadau eraill megis taith banana, yn cwblhau adnodd defnyddiol iawn.