Mae Prosiect PABA (Plant,
Amaeth, Bwyd ac Addysg) ym Mhowys wedi bod yn gweithio gydag
ysgolion Cynradd
am
bron i ddwy flynedd, yn
eu helpu i ddatblygu ‘Marchnadoedd Ffermwyr Ysgolion’. Amcan cyffredinol y prosiect yw i ‘ailgysylltu plant â bwyd
a ffermio’ mewn lleoliad lleol. Dechreuodd y syniad o gynnal
marchnad ffermwyr ar raddfa fach yn neuadd yr ysgol ar ôl ysgol
ar ddydd Gwener yn Ysgol Gynradd Gymuned Aberhafesb, ger y Drenewydd
ym Mhowys. Fe wnaeth athrawon a rhiant lywodraethwyr, a oedd hefyd
yn ffermwyr, ennyn diddordeb y CRhA mewn digwyddiad o’r fath. Gwerthiannau
cist ceir yw’r brif ragflaenydd ar gyfer ysgolion
yn ymwneud â digwyddiad masnachol - y gwahaniaeth yw bod
Marchnadoedd Ffermwyr yn cynnwys y plant, ac mae yna ddimensiwn
cymdeithasol i’r digwyddiad, sy’n cael ei werthfawrogi
gan y gymuned ehangach. Gydag ymwybyddiaeth yn tyfu mewn perthynas â bwyd
lleol a milltiroedd bwyd, dyma fenter amserol sy’n galluogi
i blant brynu’n uniongyrchol o gynhyrchwyr lleol yn rheolaidd.
Mae’r Prosiect PABA yn gysylltiedig yn arbennig â’r
cyfleoedd addysgol i ennyn diddordeb plant mewn bwyd, er mwyn iddynt
ddod yn brynwyr sydd â llawer o wybodaeth am fwyd.
Gellir crynhoi’r manteision fel a
ganlyn:
Ar gyfer Stondinwyr:
- Cyfle ychwanegol i werthu
- Cyfle i gwrdd â chwsmeriaid a
chymryd archebion
- Sesiwn byr – 3 awr
- Ffi o dim ond £5 y bwrdd (fel arfer, rhaid talu oddeutu £20
am stondin mewn Marchnad Ffermwyr a leolir mewn tref)
- Lleoliad cymunedol bywiog – cysylltiadau
cymdeithasol da
- Lleoliad cynnes mewn neuadd ysgol/cymunedol
- Te/coffi ar gael
Ar gyfer Rhieni:
- Cyfle i brynu’n uniongyrchol gan
gynhyrchwyr bach lleol
- Yn gyfleus, am eu bod yn adnabod yr
ysgol ac mae’r ysgol
gerllaw
- Cyfle da i sgwrsio ag eraill
- Gellir mynd â bwyd ffres - e.e. cig yn syth adref, yn hytrach
na’i adael yn y car am oriau
- Mae’r plant yn brysur gyda’u
stondin hwy, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, yn bwyta,
yfed a chymdeithasu
mewn amgylchedd diogel
- Mae pobl yn tueddu i adnabod ei gilydd – o
leiaf o ran golwg
Ar gyfer plant:
- Y cyffro o fod yn rhan o rywbeth ar
gyfer ‘oedolion’
- Datblygu cynlluniau ar gyfer yr hyn y byddant yn ei wneud ac yn
ei werthu
- Boddhad o gael rhieni yn edmygu ac yn gwerthfawrogi eu gwybodaeth
- Yr her o werthu, trafod arian, cynllunio a chasglu data (arolygon
prynwyr)
- Profiad o gyhoeddusrwydd – fe
wnaeth y disgyblion roi cyflwyniad mewn cynhadledd fwyd.
Ar gyfer athrawon:
- Llwybr i ymdrin â’r cwricwlwm
cenedlaethol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: mathemateg,
celf a dylunio, Saesneg
ayb
- Cysylltiadau â mentrau Ysgolion
Iach ac Eco Ysgolion a mentrau eraill
- Cyfle i ddatblygu gwaith yn yr ystafell ddosbarth yn yr awyr agored,
ac i hyrwyddo ymarfer corff trwy ymweliadau fferm
- Cysylltiadau ag ABCh ac ymwybyddiaeth o Yrfaoedd
Nid oes amheuaeth fod hyn
yn waith ychwanegol ar gyfer yr athrawon sy’n gysylltiedig, er eu bod yn cael gwefr o weld ymateb
y plant a’r ffordd y gall y rhieni weld sut y maent yn helpu
eu plant. Fodd bynnag, ar gyfer athrawon, y catalydd yw bod Cydlynydd
y Prosiect PABA yna i helpu, ac mae Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir
Canolbarth Cymru yn cydlynu’r cynhyrchwyr, fel nad oes raid
iddynt wneud pob dim.
Y man cychwyn oedd helpu’r ysgol i fynd â’r
holl ddisgyblion - y babanod a’r oedran iau yn yr ysgolion
bach gwledig hyn - i ymweld â ffermydd lleol. Roedd lleoliad
y fferm, ac weithiau’r teulu a oedd yn ffermio (fel disgybl,
llywodraethwr neu athro) eisoes yn hysbys. Cyflwynwyd y plant i
ochr farchnata ffermio a’r cysylltiadau â busnesau
eraill ar ymweliad hanner diwrnod i’r farchnad ffermwyr lleol
(a gynhelir, yn ffodus, ar ddydd Gwener yn Y Trallwng). Er mai
bwyd a werthir yn y Marchnadoedd Ffermwyr yn bennaf, gwerthir planhigion
a chrefftau hefyd, a cheir stondinau WI.
Mae Cydlynydd y Prosiect PABA yn cwrdd â’r athrawon,
yn esbonio’r fformat, yn helpu i asesu a dynodi’r tasgau
cynllunio, yn helpu gyda chyhoeddusrwydd ac, ar gyfer y marchnadoedd
cyntaf, yn darparu arwyddion ffordd o ansawdd da i’w rhoi
i fyny wythnos cyn y farchnad, a’u cymryd i lawr yn syth
ar ôl y farchnad.
Hefyd, gall y cydlynydd fynychu’r ysgol i arwain trafodaeth
gyda’r plant ynglyn â bwyd, eu hymweliad fferm, eu
profiad o fwyd, prynu a gwerthu a hyrwyddo. Ar y dechrau, mae’r
fformat ‘tasgu syniadau’ hwn yn newydd i’r plant
bach, ond maent yn dod i arfer yn gyflym, ac mae syniadau yn llifo.
Mae’r ffaith fod y fformat o dasgu syniadau, sy’n gyfarwydd
iawn i nifer o oedolion, yn derbyn pob cynnig yn adeiladu hyder.
Dim ond ar ôl hyn y symudir ymlaen i ddynodi blaenoriaethau
ac i gynllunio’r camau nesaf. Hefyd, mae’r plant hynaf
yn mwynhau rhoi tasgau i oedolion eu gwneud, ac i adrodd yn ôl
arnynt!
Pwyntiau ymarferol: mae’r plant yn cyfarch y cydlynydd gyda’i
henw cyntaf, yn hytrach na theitl a chyfenw, er mwyn helpu gyda’r
broses. Pan yn y dosbarth, am resymau amlwg, rhaid i ddisgyblion
godi eu llaw er mwyn ateb, a rhaid iddynt aros hyd nes y gofynnir
iddynt siarad. Fel arfer, mae’r cyfarfod cyntaf yn dechrau
fel hyn, ac yna’n datblygu’n drafodaeth fywiog. Dim
ond ychydig o ymyrraeth sydd angen i sefydlogi’r drafodaeth
ac i gadarnhau pwyntiau y mae’n bwysig fod yr un a benodir
yn ysgrifennydd – disgybl wrth gwrs – yn eu cofnodi.
Mae’r plant yn bihafio’n debyg iawn i oedolion yn ystod
sesiwn tasgu syniadau.
Ar ôl marchnad, gall y plant dasgu syniadau unwaith eto
er mwyn cynllunio’r farchnad nesaf. Mae’r pwyntiau
canlynol yn codi, neu gellir eu hawgrymu; cynyddu gwariant, y gwahaniaeth
rhwng nwyddau byrhoedlog a rhai nad ydynt yn fyrhoedlog a thrafodaethau
ynglyn â’r problemau a brofwyd (gwerthu allan yn rhy
fuan, gormod ar ôl heb ei werthu, lleoliad y stondin, cystadleuaeth â stondinwyr
eraill).
Yn naturiol, mae’r plant yn canolbwyntio ar fylchau mewn
gwybodaeth, ac yn aml, mae arolwg yn cael ei lunio a’i gynnal
gan ddisgyblion yn y farchnad nesaf – rhoddir sticer i bobl
sydd wedi ateb yr arolwg, er mwyn sicrhau na ofynnir iddynt eto!
Gellir dadansoddi’r wybodaeth a geir gan y prynwyr a’r
stondinwyr, ac yn aml, defnyddir siartiau bar ar y cyfrifiadur.
Yna, ceir trafodaeth ynglyn â’r hyn y mae’r ffigyrau’n
dweud wrthym (a’r hyn nad ydynt yn dweud). Nid yw’n
syndod fod dawn entrepreneuraidd naturiol yn ymddangos. Wrth iddynt
ddod yn fwy cyfarwydd â’r farchnad, mae’r plant
yn dewis y swyddogaeth sydd fwyaf addas iddynt hwy – cynllunio
posteri, addurno’r stondin, trafod a chyfrif arian, cynnig
gostyngiadau ar nwyddau byrhoedlog, mae’r rhestr yn mynd
ymlaen. Mae’n synhwyrol i newid swyddi rhywfaint, wrth i
hyder ddatblygu a thasgau newydd ymddangos. Yn y farchnad, gall
y rhieni wylio eu plant wrth eu gwaith o bell, ac yn aml, maent
yn ystyried hyn yn brofiad pwerus, sy’n agoriad llygad iddynt!
Mae’r rhestr wirio ar gyfer y digwyddiad yn cael ei ddarparu
gan y Prosiect PABA, ac wrth gwrs, mae athrawon yn ymgynghori â’i
gilydd. Mae hyn yn cynnwys:
Lleoliad
Os nad yw’r neuadd yn neuadd yr ysgol, neu’n adeilad
a ddefnyddir gan yr ysgol yn unig, rhaid cysylltu â’r
bobl berthnasol yn gynnar, ac fel y bo’n briodol. Amseru
Dydd Gwener yw’r diwrnod gorau, oherwydd mae nifer o weithwyr
swyddfa yn gadael gwaith yn gynnar ar ddydd Gwener, ac mae’n
ddiwrnod siopa naturiol. Mae’r marchnadoedd yn osgoi gwrthdaro â Marchnadoedd
Ffermwyr mewn trefi, a chynhelir rhai ar ddiwrnodau eraill yr wythnos. Fel arfer, caiff y farchnad ei sefydlu o
2.30pm, a bydd yn dechrau am 3pm, er mwyn rhoi cyfle i rai rhieni
siopa cyn i’r plant
ymuno. Am 3.30pm, ar ôl i’r ysgol orffen, bydd y plant
yn agor y farchnad yn swyddogol gyda chaneuon/ cerddoriaeth/cyhoeddiadau/cyflwyniadau,
yna bydd y farchnad wedi dechrau’n iawn. Efallai y bydd llawer
o bobl yn cyrraedd ar ôl 5pm, ond mae pobl yn pacio i fyny
ac yn gadael erbyn 6pm. Mae stondinwyr yn dda iawn am adael pethau
fel yr oeddent, a pheidio â gadael sbwriel!
Nifer o stondinau - lle y tu mewn a’r tu allan (hufen iâ a
phlanhigion yn yr haf, a phlanhigion a hyd yn oed coed Nadolig
yn y gaeaf!)
Byrddau ar gyfer seddau a lluniaeth – fe all hyn fod yn ystafell
ar wahân, ond yn aml, nid yw hyn yn ddelfrydol.
Arlwyo – y CRhA fel arfer, ac maent yn cadw’r elw
Casglu ffioedd stondinau – fel arfer, mae’r rhain yn
mynd i Gyngor yr Ysgol neu’r CRhA
Parcio ceir
Mynediad – e.e. rhaid dweud wrth y cynhyrchwyr os oes unrhyw
stepiau, dyrannu byrddau yn agos at bwyntiau pwer os bydd angen
Dyrannu stondinau – fel arfer, ar sail y cyntaf i’r
felin, ond dylid cynllunio ar gyfer gofynion arbennig er mwyn osgoi
chwerwedd neu orfod gofyn i rywun symud!
Larymau tân – os oes coginio
Cyhoeddusrwydd – cylchlythyron y plwyf lleol, hysbysfwrdd
Swyddfa’r Post, cylchlythyr yr ysgol i rieni, papurau lleol,
radio lleol, arwyddion. Adroddiadau ar ôl y digwyddiad – cael
ffotograffydd i’r digwyddiad.
Cyswllt â busnesau lleol – yr angen i fod yn gynhwysol
ac i osgoi achosi tramgwydd. Weithiau, bydd stondin gan rieni sy’n
gwerthu eu crefftau eu hunain e.e. cardiau cartref, planhigion.
Os yw’r gair yn cael ei ledaenu, a phawb yn gwybod am y digwyddiad,
yna bydd unrhyw un na chaiff ei gynnwys yn tueddu i fod yn awyddus
i ymuno yn ddiweddarach, yn hytrach na theimlo’n ddig fod
rhywun wedi‘u gadael allan! Yn aml, ni fydd y rheiny sydd â ffrwythau
neu lysiau yn gallu gwerthu mewn digwyddiadau yn y gaeaf neu’r
gwanwyn, ond byddant yn gwerthfawrogi cael eu cynnwys ar gyfer
marchnadoedd yn yr haf neu’r hydref.
Yn gyffredinol, gyda’r pedwar marchnad a gynhaliwyd hyd
yn hyn, nid oes problem wedi bod gyda ‘chystadleuaeth’,
gan fod digwyddiadau ysgolion yn fach ac yn lleol iawn. Lle mae
ysgolion yn y cwestiwn, yn amlwg nid ydynt eisiau cystadlu ag ysgol
gyfagos. Yn naturiol, mae hyn yn golygu fod dyddiadau yn cael eu
gosod yn bell o flaen llaw. Mae hyn yn plesio’r cynhyrchwyr!
Mae gwaith cydlynu Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth Cymru
yn werthfawr iawn yma, gan fod y ‘darlun mwy’ ganddynt
hwy, ac maent yn ymwybodol o anghenion y cynhyrchwyr.
Glendid Bwyd – wrth gwrs, rhaid i’r rheiny sy’n
gwerthu bwyd gydymffurfio â’r rheoliadau, a’u
cyfrifoldeb hwy yw hi i sicrhau eu bod yn storio bwyd yn y modd
cywir, ac i sicrhau glendid. Nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yn ymdrin
yn benodol â pharatoi a gwerthu bwyd a baratowyd gan rieni
a phlant – yn aml cacennau a bisgedi – ond mae’r
Asiantaeth Safonau Bwyd yn hyrwyddo arferion glendid da. Gweler
y wefan:
http://www.eatwell.gov.uk/asksam/keepingfoodsafe/asksamevents/
Yn olaf – clirio i fyny wedyn. Oni bai fod pobl yn cytuno
pwy fydd yn aros ar ôl, yr athrawon sy’n gorfod gwneud
hyn! Byddai’n llawer mwy teg i gytuno ar hyn o flaen llaw. Mae cynhyrchwyr yn gwerthfawrogi cysondeb,
ac mae ysgolion wedi tueddu i gynnal marchnad bob tymor. Mae
trefniadaeth yn tueddu
i fod yn hawdd iawn ar ôl dechrau, gan fod y cynhyrchwyr
yn cyrraedd ac yn gosod pethau i fyny eu hunain. Nid oes unrhyw
reswm pam na ddylai ysgolion mewn ardal arbennig gynnal marchnadoedd ‘mewn
cylchdro’, gan rannu’r manteision.
Mae’r Prosiect PABA a’i riant-fudiad, Ymddiriedolaeth
Bwyd a Thir Canolbarth Cymru, wedi gallu cefnogi’r fenter
hon, ac efallai y bydd yna brosiectau neu fudiadau tebyg a allai
gymryd y swyddogaethau allweddol o hwyluso cyfranogiad ysgolion/disgyblion
a chynhyrchwyr sy’n cydlynu. Wrth gwrs, gellir cynnal Marchnadoedd
Ffermwyr ar linellau Gwerthiannau Cist Car fel ymarfer codi arian
heb gyfraniad gan ddisgyblion, ond byddai hyn yn golygu colli cyfle
gwerthfawr i addysgu plant, a’u cynnwys yn y busnes ymarferol
o fwyta. Yn fwy na hyn, byddai’n rhaid i’r oedolion
drio siopa gyda phlant diflas, ac nid yw unrhyw un yn hoffi siopa
fel yna!
1963 gair
|