
Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prydain
A gefnogwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a FACE
Mae’n debyg mai’r Digwyddiad hwn oedd y cyntaf
o’i math, a gynlluniwyd i ddarparu enghreifftiau ‘ymarferol’ o
weithgareddau sy’n berthnasol i’r Cwricwlwm Cenedlaethol
ar gyfer disgyblion babanod, cynradd ac sy’n cael eu haddysgu
gartref o’r Drenewydd, Powys. Cynhaliwyd y digwyddiad gan
Dr Michele Becker a’i gwr ar eu fferm ger Llanidloes, ac
fe wnaeth y cyfranogwyr brofi gweithgareddau gwyddoniaeth mewn ‘ystafell
ddosbarth awyr agored’ yn ôl y Cyfnod Allweddol e.e.
Bioleg, Mathemateg, Daearyddiaeth a Chemeg. Roedd y gweithgareddau
hyn yn galluogi iddynt ymarfer sgiliau arsylwi, cofnodi, casglu
data, mesur a dadansoddi yn ogystal â chynllunio arbrofion.
Darparwyd ffolder o ddeunyddiau cyfeirio i athrawon fynd â hwy yn ôl
i’r ysgol gyda hwy, a oedd yn ymdrin â phethau ymarferol yn
ymwneud ag ymweliadau fferm (iechyd a diogelwch – yn cynnwys y ffolder
HOOF newydd a luniwyd gan y HSE, asesiadau risg, gweithgareddau cyn-ymweliad
a phersbectif y ffarmwr), cysylltiadau cwricwlwm cenedlaethol ar gyfer
gwyddoniaeth yn y Cyfnodau Allweddol amrywiol ac adnoddau.
Roedd arddangosfa o ddeunyddiau adnodd ar gael i ysgolion, a ddarparwyd
gan y Prosiect PABA, ac enghreifftiau o daflenni gwaith a chyfarwyddiadau
ar gyfer gweithgareddau ar y fferm, ac i’w defnyddio yn y dosbarth
cyn ymweliad ac i ddilyn ymlaen.
Roedd y diwrnod yn braf, a mynychwyd y diwrnod gan nifer o grwpiau o ddisgyblion
o ysgolion iau a babanod a leolir yng nghanol Y Drenewydd nad oeddent wedi
cymryd rhan yn y prosiect PABA o’r blaen. Hwn oedd eu hymweliad cyntaf,
a gwerthfawrogwyd y ffaith fod y Prosiect PABA wedi gallu ariannu cost
y bws. Bu disgyblion iau yn arsylwi cynefinoedd tua diwedd y gaeaf/dechrau’r
gwanwyn, yn cynnwys coedwigoedd, tir gwlyb, coridor nant a phyllau. Fe
wnaeth eu taith gerdded ddilyn nant, ac fe wnaethant gofnodi tymheredd
y dwr, mesur cyfradd y llif a pH. Fe wnaethant arsylwi ar ac adnabod bwystfilod
bach a phlanhigion. Mewn pwll mawr, fe wnaethant ddysgu dipio, gwagio rhwydi
i mewn i hambyrddau a defnyddio cardiau ID i ddynodi a rhestru eu canfyddiadau.
Fe wnaethant arsylwi’r grifft broga, ac fe wnaethant ddynodi a nodi
rhyw madfall y dwr a gafodd eu dal, gyda chymorth Amy Tibble, Swyddog Addysg
Canolfan Maes Llysdinam Prifysgol Caerdydd ym Mhontnewydd-ar-Wy. Yna, aethant
yn ôl i’r iard fferm i goladu eu canfyddiadau ac adrodd yn ôl.
Fe wnaeth y grwpiau babanod archwilio’r coetir, gan adnabod
a dysgu geiriau newydd i ddisgrifio’r hyn y gwnaethant
ei weld, trafod pethau gyda’r oedolion, defnyddio allweddau
ffotograffig a gynhyrchwyd gan Richard Becker sydd hefyd yn ffotograffydd
bywyd gwyllt, i ddynodi coed yn ôl eu rhisgl a’u
brigau. Edrychodd y plant ar nodweddion gaeaf yn y cefn gwlad
o’u hamgylch, ac fe wnaethant rwbiadau rhisgl. Fe wnaethant
gasglu samplau, a’u rhoi ar ffon gerdded gan ddefnyddio
bandiau lastig, er mwyn mynd â hwy yn ôl i iard y
fferm i’w hadnabod. Aeth yr ysgolion ag enghreifftiau a
thaflenni gwaith i wneud gwaith dilynol, ac i wneud arddangosfeydd
yn yr ysgol. Hefyd, cafodd nifer o ffotograffau digidol eu cymryd
fel cofnod.
Rydym yn ddiolchgar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a FACE Cymru
am eu cefnogaeth i’r digwyddiad hwn.
Noddir y digwyddiad hwn gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r ‘British
Association for the Advancement of Science’.

|