English

Ymweliadau Fferm yn y Gaeaf!

Mae ymweliadau fferm yn rhoi profiad byw a chofiadwy i blant, ac mae’r profiad hwn yn gysylltiedig iawn â’r tymor. Eleni, mae’r Prosiect PABA wedi bod yn arloesol trwy gynnal ymweliadau fferm cyn diwedd y gaeaf – yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth – cyfnod sydd fel arfer yn cael ei ystyried yn rhy oer/gwlyb i fynd â phlant y babanod a’r cyfnod iau y tu allan!

Ym mis Chwefror, fe wnaeth Ysgol Carno brofi manteision hyn. Yn 2006, gyda chymorth y Prosiect PABA, fe wnaeth yr ysgol ddatblygu cysylltiadau gyda fferm ‘y drws nesaf’, y gall y plant gerdded iddi o fewn 15 munud. Fe wnaeth y ffarmwr ffonio’r pennaeth i roi gwybod iddo fod y defaid yn wyna, a gofynnodd a fyddai’n hoffi mynd â grwp i weld hyn - aethant i ymweld â’r fferm y diwrnod wedyn, ac ar ôl yr ymweliad, anfonodd y pennaeth y neges ganlynol at Gydlynydd y Prosiect PABA - mae’r neges yn dweud y cyfan!

Annwyl Caroline,
Dim ond neges fer i roi’r diweddaraf i ti....
Aethom i fferm Mr H y bore ‘ma ar ôl cael gwahoddiad ganddo, a chawsom brofiad gwych. Roeddem wedi trefnu i’r plant ddod â’u hesgidiau glaw i’r ysgol, ac roeddem yn barod i fynd pan gawsom alwad ffôn gan Mr H i ddweud fod dafad ar fin rhoi genedigaeth.
Fe wnaethom gyrraedd erbyn 9.40, ac aethom i’r siediau wyna; roedd dwy ddafad yn barod i wyna, ac roedd y plant yn lwcus iawn i weld dau set o efeilliaid yn cael eu geni. Yna, cawsom weld y ddafad yn llyfu’r wyn, ac yn fuan iawn, cododd yr wyn i’w traed, ac fe wnaethant ddod o hyd i’r llaeth. Fe wnaeth rhai o’r plant roi tro ar farcio / rhifo’r wyn. Roeddent wedi’u rhyfeddu efo’r cyfan - profiad hollol newydd i’r rhan fwyaf o’r plant.
Yna, aethom i weld y ceffylau, a chawsom gyfle i fwydo rhai o’r gwartheg a’r lloi yn y sied. Ni oeddwn yn meddwl y buasem yn y fferm am amser hir iawn, ond roedd hi’n bell ar ôl 11.30a.m. pan y gwnaethom adael i fynd yn ôl i’r ysgol.
Roedd Mr H yn ardderchog efo’r plant. Roedd yn fore arbennig iawn.
Diolch am wneud y gwaith cefndirol; mae’n gyswllt cyfleus a gwerthfawr iawn â’r ysgol, sy’n rhoi profiad addysgol da iawn i’r plant.
Hwyl a chofion gorau,

Ym mis Ionawr, fe wnaeth athro ar gyfnod prawf yn Ysgol GG Caersws gysylltu â’r prosiect, ac fe wnaeth y Cydlynydd ddisgrifio’r cyfleoedd dysgu sydd ar gael ar fferm yn y gaeaf – y tywydd a’i effaith ar ffermio, bywyd gwyllt a’r tirlun, nodweddion fel waliau cerrig sychion yn amlwg iawn, anghenion ychwanegol yr anifeiliaid fferm, wyna cynnar, natur yn y gaeaf ayb

Fe wnaeth PABA drefnu i’r athro ymweld â’r fferm i drafod pethau ymarferol â’r ffarmwr – sy’n dad i blant bach, ac a oedd â rhai pryderon ynglyn ag ymweliad ym mis Chwefror i fferm ar uchder o dros 1000m!

Ar ôl mynd ati’n ofalus i lunio cynllun a chynlluniau wrth gefn rhag ofn y byddai’r tywydd yn wael, aeth yr ymweliad ymlaen ac roedd yn llwyddiant mawr. (Gweler y Cynllun Ymweliad a baratowyd gan yr athro). Roedd y tywydd yn oer ond yn braf, heblaw am gawod o law trwm a wnaeth bara tua hanner awr – gan ddangos i’r plant pa mor gyflym y gall y tywydd newid.

Fe wnaeth Nigel Elgar, ffarmwr Tir Gofal profiadol ac aelod o Gymdeithas y Pridd, eu cyflwyno i’r fferm fynyddig organig, ac esboniodd am yr amodau yn y gaeaf. Nododd y plant y prifwynt a’r caeau agored. Yna, fe wnaethant ymweld â’r defaid mewn sied fawr, fodern ac awyrog. Ni fyddai’r rhan fwyaf o’r rhain yn wyna am nifer o wythnosau - roeddent yn ddibynnol ar y ffarmwr a’i wraig am fwyd a dwr.

Fe wnaeth Nigel gneifio hwrdd a oedd yn barod, gan esbonio am ei ffordd o weithio, ei offer a’r angen i gadw’r cnu’n lân tra bod y ddafad yn dal i’w wisgo i gadw’n gynnes!
Yna, aethant ar drelar wedi’i addasu’n arbennig a oedd yn cael ei dynnu gan dractor ‘Four wheel drive’ John Deere mawr, ac aethant i’r tir pori ar y bryniau i weld cefn gwlad yn y gaeaf, ac i weld sut y mae’r anifeiliaid a’r planhigion yn ymdopi.

Daethant i lawr am ginio a thrafodaeth hir gyda Nigel a’i wraig Karen, cyn mynd yn ôl ar y bws - yn gysglyd ar ôl yr holl awyr iach ac ymarfer corff! Aethant â samplau o wlân, planhigion, gwair a llawer o ffotograffau gyda hwy.