| |
|
|
GWASANAETHAU’R YMDDIRIEDOLAETH
- Hyrwyddo sgiliau coginio ymysg pobl
leol gan ddefnyddio bwydydd lleol. Mae gan yr Ymddiriedolaeth
gytundeb gyda chynllun Cychwyn Cadarn i ddarparu cyfres
o wersi mewn sgiliau bywyd sylfaenol, gan gynnwys coginio,
yng Nghanolfan yr Ehedydd yn y Drenewydd.
- Darparu gwasanaeth ymgynghorol i’r
sectorau cyhoeddus a phreifat ynghylch ffynonellau bwydydd
lleol, ac ynghylch cydymffurfio â strategaethau
cenedlaethol a lleol mewn perthynas â maeth, iechyd
a lles. Mae gan yr Ymddiriedolaeth gytundeb gyda Chyngor
Sir Powys i gynnal adolygiad o’r gwasanaeth Pryd
ar Glud yn Sir Drefaldwyn.
- Gweithio gydag ysgolion lleol er mwyn
datblygu prydau ysgol iachus, gan ddefnyddio cynnyrch
lleol – cynnyrch organig lle bo hynny ar gael.
Byddem yn argymell ‘dull o weithio sy’n cynnwys
yr ysgol gyfan’ lle bydd disgyblion yn astudio
bwyd fel rhan o’u hastudiaethau dinasyddiaeth ar
y cwricwlwm. Bydd hyn yn arwain at ‘blant sy’n
gall ynghylch bwyd’ gyda disgwyliadau uwch. Rydym
hefyd yn gweithio gyda staff arlwyo, ac yn awgrymu newidiadau
ynghylch sut i baratoi bwyd, yn ogystal â delio
gyda chanfyddiadau ynghylch bwyd. Mae’r Ymddiriedolaeth
yn cydweithio gydag Ysgol Uwchradd Y Trallwng wrth iddi
ymgeisio i fod yr ysgol gyntaf yng Nghymru i ennill y
wobr ‘Bwyd am Fywyd’.
- Hyrwyddo ‘marchnadoedd yn iard
yr ysgol’ lle mae cynnyrch lleol, organig lle bo
hynny ar gael, yn cael ei farchnata mewn llefydd lle
mae pobl leol yn dod at ei gilydd yn naturiol. Mae’r
Ymddiriedolaeth yn cefnogi marchnad iard ysgol yr Ysgol
Gynradd yn Aberhafesb, sydd yn hynod o lwyddiannus.
- Hyrwyddo cynllun ‘Bwyd
i Dwristiaeth’, lle defnyddir twristiaeth fel
cyfrwng i arwain datblygu isadeileddau fydd yn cynorthwyo
gyda defnyddio a dosbarthu bwydydd lleol.
|
|
CYNLLUNIAU’R DYFODOL
- Sefydlu gardd gymunedol, cegin
gymunedol a chaffi cymunedol i’w defnyddio fel
canolfan i ddysgu sgiliau tyfu, cynaeafu a choginio a’r
budd a geir o fwyta’n iach. Byddai’r prosiect
hwn yn rhoi ‘canolbwynt’ y gellir ychwanegu
siop fferm a chanolfan bwyd cydweithredol ato.
- Hwyluso rhaglen hyfforddi ar
gyfer gwirfoddolwyr sy’n
gweithio gyda phlant yn yr ardd gymunedol a’r gegin
gymunedol (ar ôl eu sefydlu).
- Sicrhau fod pob disgybl, wrth iddo/iddi adael
yr ysgol, yn meddu ar dystysgrif hylendid bwyd.
- Cyfrannu at hyrwyddo nodau ‘Hybu Iechyd
Cymru’ yn
enwedig mewn perthynas â’r rhaglen ‘Bwyd
a Ffitrwydd’.
- Cynorthwyo cynhyrchwyr bwyd lleol i newid
i ddulliau cynhyrchu a dulliau marchnata mwy cynaladwy
a meithrin mentrau
ar y cyd megis cynlluniau marchnata cydweithredol ac e-fasnach
- Datblygu cynlluniau addysgiadol
i ddefnyddwyr a chymunedau ar hyd a lled Canolbarth
Cymru, a’u
hannog i wneud mwy o’u siopa yn lleol a thrwy gynlluniau
cydweithredol i gael bwyd lleol o ansawdd da.
- Trefnu a hybu wythnosau bwyd lleol.
- Datblygu brandiau ar gyfer cynnyrch
a gynhyrchir yng Nghanolbarth Cymru. Bydd brandiau
felly’n rhoi sicrwydd i ddefnyddwyr
ynghylch safonau amgylcheddol diffiniedig, ac ynghylch
meini prawf cynnyrch sy’n cyfrannu’n uniongyrchol
tuag at reoli’r amgylchedd a’r dirwedd.
|
|
PWY YDYM NI

Dr Michele Becker,Gwyddonydd
a ffarmwr organig |

Linda Broughall, Pennaeth Ysgol Gynradd Aberhafesb |
John Evans, Uwch Ymgynghorydd, ADAS |

Margaret Evitts, Pennaeth Ysgol Fabanod Gungrog, Y Trallwng |
Dr Barbara Grantham, Gwyddonydd ac Ysgrifennydd Cwmni |

Sue Jones, Arweinydd yr Adran Lletygarwch a Thwristiaeth yng
Ngholeg Powys a ffarmwr organig |

Antony Lewis, Bargyfreithiwr ac aelod o Gymdeithas y Pridd |

Louise Powell, Tiwtor mewn sgiliau coginio sylfaenol
ac aelod o Reithgor Rhieni'r Comisiwn Bwyd |

Lavinia Vaughan, Ffarmw a phen-cogydd, a Chyfarwyddwr Cyswllt
Bwyd dros Gymru |
| |
|
|
| |
|
|
 |
|