Ar
ddydd Sul 30 Gorffennaf, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth,
ar y cyd â Phrosiect PABA, sefydlu stondin yn Ystâd
Oldford, Y Trallwng ar gyfer Diwrnod Hwyl a gynlluniwyd
gan drigolion, y fforwm ieuenctid yn benodol. Cynigiwyd
y cyfle i bobl botio eginblanhigion a hau hadau o’u
dewis, er mwyn tyfu llysiau, salad a/neu berlysiau yn
y cartref, a hynny ar batio neu ar sil ffenestr. Darparwyd
amrywiaeth eang o ‘ddail’ salad fel eginblanhigion
gan Dr Michele Becker o Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir Canolbarth
Cymru, ac roedd hi ar gael i helpu’r plant a rhai
o’r oedolion i’w plannu.
Bu dros 50 o bobl
yn plannu mwy na 100 o botiau o bob maint. Dewisodd
rhai i blannu bwced o datws. Roedd
blodfresych yn boblogaidd iawn gyda’r bechgyn,
ond y mwyaf poblogaidd oedd potiau cymysg o ddail salad,
y gellir eu tynnu o’r pot fel y mae eu hangen,
a byddant yn parhau i dyfu! Yn bennaf, y trigolion
hyn a ddewisodd blannu perlysiau ar gyfer eu sil
ffenestr.
Roedd Hannah Guntrip, Swyddog Prosiect Cymunedau’n
Gymtaf ac Yvonne Jones, pennaeth Ysgol Fabanod Oldford
yn llawn clod ar gyfer y fenter. Hefyd, gwnaeth buwch
y Prosiect PABA ymddangosiad, yn ffres o fod yn y Sioe
Fawr. Fodd bynnag, y tro hwn, fe wnaeth y cawodydd
glaw rheolaidd effeithio rhywfaint ar ei hwyl!
Roedd Caroline Davies ar y stondin trwy’r dydd,
ac roedd yn mwynhau gweld diddordeb bywiog y plant,
a oedd yn awyddus i ddysgu am dyfu pethau. “Rwy’n
gobeithio y bydd eu rhieni’n gallu dod o hyd
i le ar gyfer yr holl botiau” dywedodd hi ar ôl
y digwyddiad. |